Prosiect EESW 2023-24 - Dewch i Gwrdd â'n Enillwyr Gwobrau!
22 Maw 2024

Prosiect EESW 2023-24 - Dewch i Gwrdd â'n Enillwyr Gwobrau!

Llongyfarchiadau i bob un o'r 70 tîm o bob cwr o Gymru a gymerodd ran ym Mhrosiect EESW 2023-24.

Eleni, cwblhaodd 19 tîm o’r Gogledd a 51 tîm o’r De y Prosiect a chymryd rhan yn nigwyddiadau Gwobrau a Diwrnod Cyflwyno EESW. Cynhaliwyd digwyddiad y Gogledd yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Mercher 13 Mawrth a digwyddiad y De am yr ail flwyddyn yn Arena Abertawe, ddydd Gwener 22 Mawrth 2024.

Roedd y digwyddiadau hyn yn benllanw chwe mis o waith ac ymroddiad gan y timau a gymerodd ran. Gan ddechrau gyda'u cyfarfodydd cychwynnol gyda'u Cwmnïau Cyswllt yn y Digwyddiadau Croeso a gynhaliwyd ym mis Hydref, aeth y daith yn ei blaen gyda'r timau’n cyflwyno eu datrysiadau terfynol ym mis Mawrth. Yn ystod digwyddiadau mis Mawrth, arddangosodd myfyrwyr eu prosiectau a'u prototeipiau, a gafodd eu hasesu gan banel o feirniaid gwirfoddol, a oedd wedi derbyn eu hadroddiadau ysgrifenedig ymlaen llaw. Cafodd pob tîm a oedd yn cystadlu y cyfle i gael ei enwebu am wobr ariannol o £500 mewn amrywiaeth o gategorïau. Yn ogystal, cyfoethogwyd y digwyddiadau gan bresenoldeb amrywiaeth o stondinau arddangos, gan hwyluso ymgysylltiad myfyrwyr a thrafodaethau ar ragolygon gyrfa. Roedd yr arddangoswyr yn cynnwys Ifor Williams Trailers, Toyota, Prifysgol De Cymru, Aston Martin a CSA Catapult, ynghyd â gweithgareddau STEM ymarferol a ddarparwyd gan y Tîm EESW yn Abertawe.  

Hoffem ddiolch i'n holl noddwyr a wnaeth y gwaith o gynnal y digwyddiadau hyn a'r Prosiect EESW yn bosibl. Hoffem ddiolch hefyd i'r cwmnïau cyswllt a'r peirianwyr, athrawon, aseswyr ac arddangoswyr – mae eu cefnogaeth wedi bod yn allweddol i lwyddiant y cynllun, sydd wedi bod ar waith ers 35 mlynedd bellach.   

Llongyfarchiadau mawr i'r holl fyfyrwyr a gymerodd ran eleni! Roedd safon y prosiectau a gyflwynwyd yn rhyfeddol o uchel, gan wneud y dasg asesu’n gryn her i'n beirniaid gwirfoddol a noddwyr y gwobrau.

Enillwyr Gwobrau Prosiect EESW 2023-24

Y Gogledd

Defnydd Gorau o Beirianneg a Thechnoleg a noddir gan IET

Enillydd y wobr hon yw Ysgol Dyffryn Conwy yn gweithio gyda First Hydro

Gwobr Ian Binning - Y Defnydd Gorau o Egwyddorion Peirianneg Fecanyddol a noddir gan yr IMechE (Rhanbarth Glannau Mersi a Gogledd Cymru)

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Ysgol Dyffryn Conwy
  • Ysgol Friars 4
  • Ysgol Uwchradd Dinbych
  • Ysgol Bryn Elian 2

Enillydd - Ysgol Uwchradd Dinbych yn gweithio gydag Ifor Williams Trailers

Defnydd Gorau o TG / Codio a noddir gan Spectris Foundation

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Ysgol Eirias
  • Coleg Meirion Dwyfor, Pwllheli
  • Ysgol Uwchradd y Fflint
  • Enillydd – Ysgol Uwchradd y Fflint yn gweithio gyda JCB Transmissions, Wrecsam

Prosiect gyda'r Potensial Masnachol Mwyaf a noddir gan Ganolfan Ansawdd Cymru

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • St David’s College 1
  • Ysgol Friars 4
  • Ysgol Uwchradd Dinbych
  • Ysgol Uwchradd y Fflint
  • Enillydd – Ysgol Friars 4 yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor, Product Designs a CK Tools

Defnydd Gorau o STEM ar gyfer Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd a noddir gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Ysgol Dyffryn Conwy
  • Ysgol Bryn Elian 1
  • Ysgol Uwchradd Penarlâg 1
  • Ysgol Uwchradd Penarlâg 2
  • Coleg Dewi Sant 1

Enillydd- Coleg Dewi Sant 1 yn gweithio gyda Ore Catapult

Adroddiad Ysgrifenedig Cyffredinol Gorau a noddir gan CBAC

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Coleg Dewi Sant 1
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Ysgol Friars 3
  • Ysgol Uwchradd y Fflint
  • Ysgol Uwchradd Dinbych
  • Enillydd - Ysgol Friars 3 yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor, Product Design a CK Tools

Y De

Gwerthfawrogiad Gorau o Faterion Amgylcheddol a noddir gan Bute Energy

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Ysgol Esgob Vaughan 2
  • Coleg 6ed Dosbarth Caerdydd
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Gwynllyw
  • Ysgol Uwchradd Caerdydd 5
  • Enillydd – Ysgol Uwchradd Caerdydd 5 yn gweithio gydag ISG Ltd

Dylunio Peirianneg Cemegol / Proses Gorau a noddir gan IChemE

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd...

  • Ysgol Penglais
  • Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant
  • Ysgol Esgob Vaughan 2

Enillydd- Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant yn gweithio gyda Chwmni Cemegol Eastman

Defnydd Gorau o Beirianneg a Thechnoleg a noddir gan IET

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd...

  • Ysgol Penglais
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Gwynllyw
  • Ysgol Uwchradd Caerdydd 1
  • Ysgol Cil-y-coed 1

Enillydd- Ysgol Penglais yn gweithio gydag ABER Instruments

Gwerthfawrogiad Gorau o Faterion Diogelwch a noddir gan yr IMechE

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd...

  • Coleg Gwent 1
  • Ysgol Rougemont 2
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
  • Ysgol Gyfun Treorci 1

Enillydd- Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn gweithio gyda Mott MacDonald Bentley

Cyflwyniad Mwyaf Effeithiol o'r Datrysiad a Ddewiswyd a noddir gan Diwydiant Cymru

  • Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Ioan Fedyddiwr
  • Ysgol John Frost
  • Coleg Merthyr
  • Ysgol Rougemont 2

Enillydd - Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Ioan Fedyddiwr yn gweithio gydag Future Valleys Construction

Dylunio Mwyaf Arloesol neu Addasedig a noddir gan KLA

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd...

  • Coleg Merthyr
  • Ysgol Rougemont 2
  • Ysgol Uwchradd Caerdydd 4

Enillydd – Ysgol Uwchradd Caerdydd 4 yn gweithio gydag ISG Ltd

Perfformiad Tîm Cyffredinol Gorau a noddir gan National Grid

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd...

  • Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Ioan Fedyddiwr
  • Ysgol Esgob Vaughan 2
  • Coleg 6ed Dosbarth Caerdydd
  • Ysgol Dyffryn Aman 2

Enillydd – Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd yn gweithio gyda Safran Seats GB

 

Defnydd Gorau o TG / Codio a noddir gan Spectris Foundation

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd...

  • Coleg 6ed Dosbarth Caerdydd
  • Ysgol Uwchradd Fitzalan 2
  • Ysgol Cil-y-coed 1

Enillydd – Ysgol Uwchradd Fitzalan 2 yn gweithio gydag AECOM

Model Gwaith neu Brototeip Gorau a noddir gan SWIEET

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd...

  • Ysgol Esgob Vaughan 2
  • Ysgol John Frost
  • Ysgol Penglais
  • Ysgol Bro Teifi

Enillydd – Ysgol Esgob Vaughan 2 yn gweithio gyda'r Grid Cenedlaethol

Prosiect gyda'r Potensial Masnachol Mwyaf a noddir gan Ganolfan Ansawdd Cymru

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd...

  • Ysgol Lewis i Ferched
  • Ysgol Bryn Tawe
  • Coleg Gwent Glynebwy 1
  • Enillydd – Coleg Gwent Glynebwy 1 yn gweithio gyda Thales

Defnydd Gorau o STEM ar gyfer Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd a noddir gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd...

  • Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant
  • Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Ioan Fedyddiwr
  • Ysgol Kings Monkton
  • Ysgol Dyffryn Aman 2

Enillydd – Ysgol Kings Monkton yn gweithio gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Y Datrysiad Mwyaf Arloesol i'r Prosiect a noddir gan Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru

  • Coleg Howell 2
  • Ysgol Uwchradd Caerdydd 4
  • Ysgol Dyffryn Aman 2
  • Ysgol Gyfun Gŵyr 1

Enillydd – Ysgol Gyfun Gŵyr 1 yn gweithio gyda Pheirianneg Awyrofod Prifysgol Abertawe

Adroddiad Ysgrifenedig Cyffredinol Gorau a noddir gan CBAC

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd...

  • Ysgol Gyfun Gŵyr 1
  • Ysgol Gyfun Gŵyr 2
  • Ysgol Penglais
  • Ysgol John Frost

Enillydd – Ysgol John Frost yn gweithio gyda Gilcrest Manufacturing

Mae EESW yn ddiolchgar iawn o fod wedi derbyn cyllid parhaus gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru i gynnal gweithgareddau fel y Prosiect EESW ledled Cymru.