Mae Cynllun Addysg Beirianneg Cymru Cyf ar hyn o bryd yn chwilio am Swyddog Cyflenwi yng Ngogledd a De Cymru, a fydd yn gweithio dan oruchwyliaeth y Rheolwr Gweithgareddau ac yn cydweithio â'r Prif Swyddog Cyfrifol i ddarparu gweithgareddau STEM cyffrous ac ysgogol mewn ysgolion ac i ddatblygu syniadau prosiect newydd, bydd y contract yn un cyfnod penodol i ddechrau o fis Awst 2024 tan 31 Rhagfyr 2024. Mae’n bosib y bydd estyniad tan Mawrth 2025, os bydd cyllid ar gael.
Fel Swyddog Cyflenwi, byddwch chi'n gyfrifol am gyflwyno gweithgareddau STEM amrywiol mewn ysgolion. Byddwch yn cyflwyno sesiynau i grwpiau o ddisgyblion yn eu hysgolion, yn ogystal â chynorthwyo'r Rheolwr Gweithgareddau a darparwyr eraill i ddatblygu gweithgareddau STEM newydd i'w darparu ledled Cymru.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 26 Gorffennaf 2024
Cyfweliadau i'w cynnal: Wythnos yn dechrau 22 Gorffennaf 2024