Nod ein rhaglen o ddigwyddiadau Merched mewn STEM yw annog disgyblion benywaidd i gymryd diddordeb gweithredol mewn pynciau STEM cyn eu dewis o bynciau TGAU.
Trefnir ymweliadau i grwpiau o 8-45 o ddisgyblion â chwmni neu adran prifysgol.

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio ysgolion

Sut mae'n gweithio

Ymweliad â Chwmnïau

Mae EESW yn trefnu ymweliadau â chwmnïau lleol er mwyn i ddisgyblion gael cipolwg ar weithgareddau’r cwmni, profi’r hyn sy’n digwydd a datblygu gwerthfawrogiad o’r gwahanol amgylcheddau sy’n bodoli.  Mae disgyblion yn cyfarfod gweithwyr cyflogedig sy’n trafod eu cefndir a’u rolau yn y cwmni, maen nhw’n cael taith o’r safle ac mae’r diwrnod yn cynnwys gweithgaredd ymarferol.

Fe’u hanogir i gynnwys eu harsylwadau yn eu pynciau yn yr ysgol, yn benodol STEM, a thrafod sut bydd eu dewis o bynciau TGAU yn dylanwadu ar eu llwybr gyrfa eu hunain posibl.

Ymweld â phrifysgolion

Mae disgyblion yn cael y cyfle i ymweld ag adrannau peirianneg mewn prifysgolion, lle byddant yn cael taith o’r cyfleusterau a chymryd rhan mewn gweithgareddau dan oruchwyliaeth staff prifysgol. Nod y diwrnod yw dangos sut beth yw bywyd prifysgol ac annog merched i ystyried mynd i brifysgol i astudio pynciau STEM.

Pam cymryd rhan

Mae ein menter Denu Merched i Faes STEM yn rhaglen boblogaidd o ddigwyddiadau sy'n ceisio annog disgyblion benywaidd i ymddiddori'n ymarferol pynciau STEM cyn gwneud eu dewisiadau TGAU.

Mae digwyddiadau yn cynnwys:
✔ Cyflwyniad i’r brifysgol
✔ Taith safle
✔ Gweithgareddau ymarferol
✔ Sgyrsiau ysbrydoledig gan fodelau rôl mewn STEM

Mae EESW yn derbyn cyllid yn ddiolchgar gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru i redeg ei rhaglen Merched mewn STEM.

Sefydliadau partner ar gyfer Merched i STEM

Ariennir y Rhaglen Merched i STEM yn rhannol gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru.