Os ydych chi’n gweithio yn y diwydiant STEM, mae yna ffyrdd amrywiol o gymryd rhan drwy wirfoddoli:

 

Aseswyr EESW

Bob blwyddyn, mae tua 100 o dimau ledled Cymru yn cymryd rhan yn y Prosiect EESW ac yn mynychu’r Diwrnod Gwobrwyo a Chyflwyno blynyddol yn y Gogledd neu’r De.  

Bydd prosiect yn cael ei ddyrannu i aseswr yn ddibynnol ar eu cefndir a’u dewisiadau. Bydd aseswyr yn derbyn adroddiad o’r prosiect wythnos cyn y digwyddiad i’w adolygu.  

Yn y digwyddiad, caiff aseswyr eu gosod mewn panel o dri yn ddibynnol ar eu math o brosiect a’u profiad asesu. Byddant yn gwrando ar dri chyflwyniad yn ystod y diwrnod, gan gynnwys cyflwyniad gan y tîm y rhoddwyd eu hadroddiad iddynt cyn y digwyddiad. Fel panel, byddant yn sgorio’r prosiect yn erbyn cyfres gysylltiedig o feini prawf asesu. Byddant yn gwneud enwebiadau ar gyfer amrywiaeth o gategorïau gwobrwyo hefyd.  

Gwahoddir gweithwyr proffesiynol mewn unrhyw ddiwydiant Peirianneg i fynychu digwyddiadau blynyddol hefyd fel aseswyr gwirfoddoli. Mae croeso i gwmnïau sy’n cymryd rhan yn STEMCymru enwebu unrhyw un o’u gweithwyr cyflogedig i weithredu fel aseswyr.  

Cofrestrwch eich diddordeb i gofrestru i wirfoddoli fel beirniad mewn digwyddiad eleni yma

Llysgennad STEM

Os ydych chi’n gweithio yn y diwydiant STEM ac yr hoffech ein helpu yn unrhyw un o’n digwyddiadau, rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr.  

 

Cymdeithion STEM

Mae STEMCymru’n ymgysylltu â graddedigion ac ôl-raddedigion i helpu gyda’n gwaith yng Nghymru.  

Bydd Cymdeithion STEM yn gallu helpu gyda gwaith rheoli prosiectau STEMCymru, gan gydweithio ag ysgolion a thimau dynodedig yn eich ardal. Gallwch helpu mewn digwyddiadau mawr hefyd a gynhelir gydol y flwyddyn neu ymweld ag ysgolion i siarad a gweithio gyda disgyblion ac athrawon.  

Ar gyfer y rôl hon, bydd yn ofynnol cael uchafswm o’r hyn sy’n cyfateb i 8 diwrnod y flwyddyn a bydd Cymdeithion STEM yn cael eu talu £75 y dydd.  

 

Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r uchod, mae croeso i chi gysylltu.  

Rydym yn annog gweithwyr proffesiynol STEM i gymryd rhan gyda ni i helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth iau.