Sut mae'n gweithio

Mae cyrsiau preswyl Headstart Cymru yn cynnig cyfle i fyfyrwyr Blwyddyn 12 dreulio amser mewn Adran Peirianneg mewn Prifysgol cyn cyflwyno eu cais i UCAS. 

Gall y myfyrwyr aros yn llety'r Brifysgol, mynd ar daith o amgylch y campws gydag israddedigion a mynychu sesiynau ar ffurf darlith a sesiynau ymarferol. Bydd y cyrsiau'n cynnig profiad go iawn o fywyd Prifysgol i'r disgyblion. Trefnir gweithgareddau gyda'r nos i roi cyfle i'r myfyrwyr gymdeithasu gyda myfyrwyr sydd â diddordebau tebyg.

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr o ddiddordeb i gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau yn 2025!

Pam cymryd rhan?

Mae digwyddiadau yn cynnwys:
✔ Cyflwyniad i'r brifysgol a chyrsiau
✔ Taith o amgylch y campws
✔ Sesiynau ymarferol
✔ Cyfle i gwrdd â darlithwyr a gofyn cwestiynau
✔ Myfyrwyr presennol y brifysgol a thrafod eu profiadau
✔ Prydau bwyd, llety a gweithgareddau gyda'r nos

Digwyddiadau blaenorol