Cyflwyniad 2 Prosiect Peirianneg a Gweithgynhyrchu (I2EM)

Gweithdai i2E wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer Ysgolion Uwchradd yng Ngheredigion a Chonwy sy’n addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 gan gynnwys ein Her Cyflymder EESW, gweithdy BBC micro:bit, gweithdy Tyrbinau Gwynt a gweithdy Spheros newydd.  

Os hoffech archebu sesiwn neu ddarganfod mwy, cysylltwch â ni

Lawrlwythwch ein taflenni gwybodaeth am brosiectau ar gyfer I2EM Ceredigion, I2EM Conwy ac I2EM Wrecsam

ARIENNIR Y PROSIECT GAN LYWODRAETH Y DU YN SGIL YR AGENDA FFYNIANT BRO

Ffermio Cynaliadwy i Ysgolion Cynradd

Mae'r prosiect Ffermio Cynaliadwy yn gwahodd disgyblion i weithio gyda'i gilydd i dyfu bwyd mewn tŷ gwydr digidol y maent wedi'i adeiladu a'i godio. Gyda ffocws ar gynaliadwyedd mae disgyblion Cam Cynnydd 3 (CC3) yn cael eu cyflwyno i'r mudiad ffermio trefol sy'n dod â chnydau i'n trefi a'n dinasoedd, gan ailddefnyddio lleoliadau trefol nad ydynt yn cael defnydd digonol, lleihau milltiroedd bwyd a chysylltu pobl â'r bwyd y maent yn ei fwyta yn eu cymunedau. 

Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer ysgolion cynradd. 

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol. 

Ffermio Cynaliadwy ar gyfer Ysgolion Uwchradd

Mae'r prosiect Ffermio Cynaliadwy yn gwahodd disgyblion i weithio gyda'i gilydd i dyfu bwyd mewn tŷ gwydr digidol y maent wedi'i adeiladu a'i godio.

Yn CC4 mae'r prosiect wedi'i wreiddio mewn dealltwriaeth o effaith modelau cynhyrchu bwyd traddodiadol a newid hinsawdd ar fioamrywiaeth ac mae'n archwilio ffermio trefol a ffermio mewn amgylchedd rheoledig fel dewisiadau amgen gyda manteision ar gyfer diogeledd bwyd a chynaliadwyedd yn ehangach.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Sefydliad Spectris.  

Cynghrair First Lego

Mae EESW yn cyflwyno tair her ranbarthol yn y Gynghrair First Lego bob blwyddyn yng Ngogledd, De-ddwyrain a De-orllewin Cymru, ar ran IET. 

Mae'r gweithgaredd yn agored i ysgolion cynradd ac uwchradd, ac mae tri chategori oedran gwahanol.  

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu'n rhannol gan yr IET a'r Sefydliad Spectris.    

Gweithdai Tyrbinau Gwynt

Mae EESW yn falch o gynnig ein Gweithdy Tyrbinau Gwynt ar gyfer hyd at 30 disgybl y sesiwn i ysgolion cynradd ac uwchradd cymwys sydd wedi'u lleoli yn ardaloedd Rhondda, Cynon, Castell-nedd ac Afan.   

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu gweithdy i'w gyflwyno yn eich ysgol o fis Ionawr 2024, cysylltwch â ni i archebu.