Gellir cyflwyno ein gweithdai Cyflwyniad i Peirianneg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a gellir eu haddasu i weddu i ystod o alluoedd.
Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy neu cliciwch yma i archebu un o'n sesiynau.
Gan weithio mewn timau bach, mae disgyblion yn defnyddio ein citiau wedi'u hailgynllunio i adeiladu eu tyrbin gwynt eu hunain a mesur yr ynni a gynhyrchir.
Mae disgyblion yn dysgu sut maen nhw'n gweithio, sut maen nhw'n cael eu peiriannu a'u hadeiladu, ac maen nhw'n cael y dasg o greu a chofnodi'r tyrbin gwynt mwyaf effeithlon.
Camau cynnydd 3 a 4
Yn y gweithdy micro:bit hwn gan y BBC, caiff disgyblion eu cyflwyno i god sylfaenol lle byddant yn dysgu sut i symud robot Microbit trwy gyfres o dasgau.
Mae disgyblion yn gweithio mewn grwpiau i raglennu trosglwyddydd a derbynnydd i gyflwyno teclyn rheoli o bell, gan addasu eu cod drwyddo draw i wella perfformiad eu robot.
Camau cynnydd 3 a 4
Mae Sialens Cyflymder EESW yn weithgaredd dwy awr wych lle mae disgyblion yn cael profi byd cyffrous ceir rasio model wedi'u pweru gan CO2.
Mae disgyblion yn gweithio mewn timau i adeiladu a rasio eu ceir ar ein trac llawr pwrpasol i weld pa dîm sydd wedi cynhyrchu’r car sy’n cael ei bweru gan CO2 cyflymaf.
Camau cynnydd 3 a 4
Mae’r Prosiect hwn yn herio timau o ddisgyblion i ddylunio, adeiladu a rhaglennu eu micro-dŷ gwydr clyfar eu hunain. Bydd EESW yn cyflwyno sesiynau codio, ochr yn ochr â phecynnau dosbarth ag adnoddau llawn gan gynnwys BBC Micro:bit rhaglenadwy, byrddau rheoli amgylcheddol, synwyryddion a chydrannau, ynghyd â chanllawiau sut i wneud, fideos a chynlluniau gwersi trawsgwricwlaidd.
Camau cynnydd 3 a 4
A all robotiaid oroesi heb eu holwynion?
Mae disgyblion yn ystyried symudiad mewn anifeiliaid, mewn bodau dynol, ac mewn natur, ac yn cymhwyso hyn i adeiladu, profi a mireinio math newydd o robot; un gyda'r cydbwysedd perffaith o gyflymder, cryfder a sefydlogrwydd.
Camau cynnydd 3 a 4
Dod yn fuan!