Grymuso Peirianwyr Cymoedd Technoleg y Dyfodol: Cwrs Preswyl Llwyddiannus ym Mhrifysgol De Cymru Trefforest
03 Awst 2023

Grymuso Peirianwyr Cymoedd Technoleg y Dyfodol: Cwrs Preswyl Llwyddiannus ym Mhrifysgol De Cymru Trefforest

Wedi ei ariannu gan raglen Cymorth Technoleg Llywodraeth Cymru, cynhaliwyd cwrs preswyl tri diwrnod ym Mhrifysgol De Cymru, Trefforest i fyfyrwyr o Flaenau Gwent a Merthyr ddysgu am fywyd prifysgol ar garreg eu drws a’r rhagolygon gyrfa cyffrous sydd ar gael i beirianwyr y dyfodol.

Mewn cam newydd cyffrous tuag at hyrwyddo peirianneg fel llwybr gyrfa addawol, cynhaliwyd cwrs preswyl tri diwrnod ym Mhrifysgol De Cymru Trefforest rhwng 3 a 5 Gorffennaf.

Drwy sesiynau gweithdy ymarferol cafodd y fyfyrwyr o Goleg Gwent, Hafan Dysgu Blaenau Gwent a Choleg Merthyr eu hannog i ddefnyddio eu creadigrwydd a’u sgiliau datrys problemau a meithrin angerdd am beirianneg a allai eu harwain tuag at ddyfodol disglair a diddorol iawn.

Cafodd y cyfle tri diwrnod, oedd am ddim i’r bobl ifanc, ei drefnu gan Gynllun Addysg Peirianneg Cymru a’i gyflwyno mewn partneriaeth gyda Phrifysgol De Cymru.

Ar y diwrnod cyntaf roedd taith o’r labordai Awyrofod a Pheirianneg Sifil, sesiwn ymarferol i adeiladu cylchred electroneg oedd yn gweithio, ac yna godio Raspberry Pi mewn sesiwn ddefnyddiol ar ddefnyddio cyfrifiadur.  

Ar yr ail ddiwrnod profodd y myfyrywyr offer gwastadau yn y gweithdy Peirianneg Sifil, cynllunio llwybr hedfan yn defnyddio map i raddfa yn unig ac wedyn raglennu eu drôn i wneud ei gwaith a rheoli ei braich robotig eu hunain. Yna yng nghampws Glyntaf, cafodd y myfyrwyr ddwy sesiwn ymarferol mewn gwyddor fferyllol yn creu eu eli gwefus a hufen wyneb eu hunain mewn peirianneg biofeddygol, a bu myfyrwyr yn diagnosio claf gyda methiant calon.  

Ar y trydydd dydd rhoddwyd dosbarth meistr mathemateg yn ymchwilio gofod ac amser, a ddilynwyd gan gyflwyniad defnyddiol iawn am raglen Network 75 a llwybrau i ariannu cymwysterau prifysgol cyn i’r grŵpo ffarwelio. 

Dywedodd y myfyrwyr:

“Roeddwn eisiau mynychu’r cwrs fel mod gen i fwy o syniad am beth roeddwn i’n ei fwynhau a gallwn weld y byddai o fudd i mi yn y dyfodol”.

“Fe wnes wir fwynhau llawer o agweddau o’r cwrs fodd bynnag y prif uchafbwynt oedd gweld sut y daeth pawb ynghyd i weithio ar her newydd oherwydd roedd pawb ohonom gyda phobl nad oeddem yn eu hadnabod ac amgylchedd gwahanol oedd yn anghyfarwydd i nhi.”

Dywedodd Heather Francis, Uwch Swyddog Recriwtio Myfyrwyr Prifysgol De Cymru:

“Mae ein hacademwyr yn wirioneddol angerddol am ddangos i fyfyrwyr sut i ddefnyddio mewn bywyd go iawn y pynciau STEM y maent yn dysgu amdanynt yn yr ystafell ddosbarth. Mae cwrs preswyl EESW Headstart yn ffordd berffaith i wneud hynny; mae myfyrwyr yn dod i’r campws, yn dysgu am yr holl wahanol gyrsiau gradd sydd ar gael a chael profiad ymarferol o sut beth fyddai astudio mewn prifysgol.”

Drwy brofiadau ymarferol a chyswllt gyda darlithwyr a myfyrwyr yn y brifysgol, cynigiodd cwrs blasu prifysgol Headstart Cymoedd Technoleg ddewis gwych o brofiadau bywyd go iawn i ysbrydoli a chynyddu ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd amrywiol a all aros unrhyw un sy’n penderfynu dilyn gyrfa mewn peirianneg.