Cyhoeddi Enillwyr Cystadleuaeth IET 150!
22 Maw 2022

Cyhoeddi Enillwyr Cystadleuaeth IET 150!

I ddathlu canrif a hanner ers sefydlu’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), lansiodd EESW Stem Cymru ac IET ‘Gystadleuaeth IET 150: Fy Nghymuned Gynaliadwy’ lle cafodd pobl ifanc 7-14 oed eu herio i gynllunio ac adeiladu cymuned gynaliadwy.

Roedd y gymuned angen o leiaf 150 o gartrefi ar gyfer y trigolion a chafodd yr ymgeiswyr eu hannog i archwilio meysydd fel bwyd, dŵr, lloches, ynni a thrafnidiaeth gyhoeddus. Yn sgil y prosiect, bu modd i bobl ifanc archwilio’r elfennau sylfaenol sy’n perthyn i fyw’n gynaliadwy trwy gael eu hysbrydoli gan eu cymuned leol. Gofynnwyd i’r ymgeiswyr gynllunio’u cymuned gynaliadwy eu hunain ac ymchwilio i rai o’r heriau amgylcheddol sy’n ein hwynebu.

Roedd y gystadleuaeth ar agor i ddau grŵp oedran, sef 7-10 oed ac 11-14 oed, ac roedd modd cystadlu fel unigolyn, mewn grwpiau bach ac mewn grwpiau mawr. Hoffem ddiolch yn arbennig i’n cyfranogwr ieuengaf, Reuben Bailey – ac yntau’n 6 oed, gwyddai na fyddai modd iddo ennill gwobr, ond gan ei fod wedi gwirioni cymaint ar y pwnc penderfynodd gymryd rhan beth bynnag – da iawn ti, Reuben!

Hoffem ddiolch i’n beirniaid, Ken Newis a Chris Evans am roi o’u hamser i edrych ar y 259 ymgais a gafwyd gan bobl ifanc ledled y DU. Gallwch wylio ein fideo ar https://www.youtube.com/watch?v=k52Q2l3Z5aE&t=95s i glywed eu barn ynglŷn â gwaith y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol.

Pleser yw cael cyhoeddi y bydd IET 150 yn rhoi LEGO® Education SPIKE™ Essential Set neu LEGO® Education SPIKE™ Prime Set i enillydd pob dosbarth a chategori oedran a byddwn yn anfon tystysgrifau at bawb a gymerodd ran.

 

Dyma’r rhai a ddaeth i’r brig:


7-10 oed:

Unigolyn – Sophie Golden

Grŵp Bach – Sunshine Fields

Grŵp Mawr – Borthyn Inventors


11-14 oed:

Unigolyn – Rosalind Finn

Grŵp Bach – Bedfordville

Grŵp Mawr – The Sustainable Landmarkers

 

Diolch o galon ichi – a da iawn chi am gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Hefyd, llongyfarchiadau i bob un o’n henillwyr.

Gobeithio eich bod wedi mwynhau cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu IET. I gael rhagor o weithgareddau ac adnoddau STEM diddorol, ewch i: https://education.theiet.org/