Mae Her Cyflymder EESW yn weithgaredd gwych sy’n para dwy awr lle mae disgyblion yn cael profiad o fyd cyffrous ceir rasio model sy'n cael eu pweru gan CO2.
Mae’r disgyblion yn gweithio mewn timau i adeiladu a rasio eu ceir ar ein trac llawr pwrpasol i weld pa dîm sydd wedi cynhyrchu'r car cyflymaf wedi'i bweru gan CO2.

Archebu gweithdy

Sut mae'n gweithio

Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ac mae'n para tua 2 awr ar gyfer dosbarth o 30 disgybl.

Diwrnod llawn £495 (digon ar gyfer 2 weithdy), 2 ddiwrnod llawn £850, 3 diwrnod llawn £1200.  

Gellir trafod amseriadau a dyddiadau wrth archebu'r profiad. Hanner diwrnod ar gael ar gais.

Mae gweithdai a ariennir yn llawn ar gael i ysgolion uwchradd yng Ngheredigion, Conwy a Wrecsam trwy ein prosiectau a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  

Pam cymryd rhan

✔ Darperir yr holl offer angenrheidiol i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn gan EESW.  
✔ Gellir darparu ar gyfer nifer o wahanol ddosbarthiadau a grwpiau blwyddyn hefyd.  
✔ Mae'r gweithdy hwn wedi'i fapio i:
Cwricwlwm i Gymru 2022
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
Yn y sesiwn blasu dwy awr hon mae disgyblion yn cael cipolwg ar fyd cyffrous F1 mewn Ysgolion! 
Trwy'r sesiwn ddiddorol hon, bydd disgyblion yn archwilio'r hyn sy'n gysylltiedig â chynllunio a chynhyrchu'r car cyflymaf posibl, yn ogystal â chael eu herio gyda hunaniaeth brand.