Mae'r prosiect yn herio disgyblion i weithio mewn timau i raglennu, rhoi at ei gilydd a phlannu eu tŷ gwydr clyfar eu hunain dan do a reolir gan micro:bit gan ystyried cynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol ein modelau cynhyrchu bwyd traddodiadol ar yr un pryd.
Mae EESW yn darparu pecynnau dosbarth llawn adnoddau ac yn cyflwyno sesiwn ragarweiniol i ddangos y codio a chefnogi’r broses o roi’r tŷ gwydr at ei gilydd. 

Archebu gweithdy

Sut mae'n gweithio

Bydd EESW yn lansio'r prosiect gyda gweithdy rhagarweiniol hanner diwrnod. Mae pob pecyn adnoddau i’r dosbarth yn darparu popeth sydd ei angen ar dimau o 5 neu 6 disgybl i sefydlu eu micro:fferm eu hunain a thyfu cnwd o blanhigion micro-wyrdd – gan gynnwys micro:bit, cydrannau rheoli amgylcheddol, tŷ gwydr dan do mewn pecyn fflat a phecyn tyfu ar gyfer plannu pridd traddodiadol neu dechnegau hydroponig sylfaenol. 

Yn ystod y gweithdy mae pob disgybl yn cwblhau gweithgaredd codio micro:bit cyn cael rolau yn y tîm a chymryd cyfrifoldeb am wahanol agweddau ar gyfnod rhoi’r tŷ gwydr at ei gilydd a bydd hyn hefyd yn eu hannog i feddwl sut y gallai eu sgiliau gyfateb i gyfleoedd gyrfa cysylltiedig â STEM yn y dyfodol. Bydd y tai gwydr yn barod i'w plannu yn dilyn y gweithdy rhagarweiniol. Yna gall disgyblion blannu eu cnwd a goruchwylio'r cylch tyfu, cyn profi eu cynnyrch 7 i 10 diwrnod yn ddiweddarach. Gellir cwblhau prosiectau mewn pythefnos neu gallwn gynnig benthyciad cit hirach 4 i 6 wythnos sy'n caniatáu ar gyfer mwy nag un cylch tyfu a'r potensial ar gyfer mwy o ymchwil, dadansoddi a hyd yn oed cystadleuaeth dan arweiniad athrawon neu ddisgyblion.  

Pam cymryd rhan

✔ Darperir yr holl offer angenrheidiol ochr yn ochr â gweithgareddau ymarferol ag adnoddau llawn gan EESW.  
✔ Addas ar gyfer grwpiau dosbarth cyfan o hyd at 30 o ddisgyblion neu fel gweithgaredd allgyrsiol. 
✔ Prosiect tîm aml-sgil sy'n annog datrys problemau yn annibynnol. 
✔ Mae'n annog disgyblion i feddwl am sut i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dyfodol cynaliadwy. 
✔ Mae'r gweithdy hwn wedi'i fapio i:
Cwricwlwm i Gymru 2022

 

Cam Cynnydd 3

Mae'r cyflwyniadau a'r adnoddau ategol sydd wedi'u targedu'n bennaf at Gam Cynnydd 3 yn ystyried cynaliadwyedd trwy ffermio trefol a ffermio mewn amgylchedd rheoledig – gan ddod â chynhyrchu bwyd i gymunedau trefol, lleihau milltiroedd bwyd ac ailgysylltu defnyddwyr â chyflenwadau bwyd. 

Mae ein partneriaeth gyda'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion archwilio'r newidiadau cemegol sy'n digwydd yn ystod twf planhigion a chynnal profion asidedd ar y pridd wrth iddynt geisio darparu'r amodau tyfu gorau posibl ar gyfer eu cnwd.   

Mae gennym leoedd cyfyngedig wedi'u hariannu ar gael ar gyfer ysgolion cynradd diolch i'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.  

Unwaith bydd y llefydd hyn wedi eu llenwi, gallwn gynnig y gweithgaredd hwn i’w ddarparu yn eich ysgol am gost o £795 y dosbarth.  

Cam Cynnydd 4

Yng Ngham Cynnydd 4 mae'r prosiect wedi'i wreiddio yn yr effaith y mae dulliau ffermio cyffredinol yn ei chael ar fioamrywiaeth yng Nghymru. 

Mae gofynion y prosiect a'r cyfleoedd i ymestyn i CC4 yn dod o bwyslais cynyddol ar gasglu data a'r cyfle i ddadansoddi data.  

Mae cyllid ar gael i grwpiau ysgolion uwchradd diolch i Sefydliad Spectris.  

   

Geirda

“Roedd yn wirioneddol ddiddorol. Yn wahanol i unrhyw beth y gallwn ei gynnig yn yr ysgol. Roedden nhw wrth eu bodd yn cael rolau gwahanol a bod yn rhan o bob agwedd ar y prosiect - doedd dim yn cael ei wneud drostyn nhw.”
Athro Blwyddyn 5, Casnewydd
“Roedd yn ymdrin â chymaint o feysydd o'r cwricwlwm newydd mewn ffordd wirioneddol ddilys, pwrpasol a deniadol. Roedd y dysgu'n gyfredol ac yn berthnasol iawn i'r byd modern, roedd plant wrth eu bodd â'r holl broses – o’r ymchwil, i’r adeiladu a’r tyfu.”
Athro Blwyddyn 6, Cwmbrân
“Mae'r amrywiaeth o brofiadau yn cadw ysgogiad y plant drwyddi draw. Roedd y prosiect yn ymdrin â sawl agwedd ar y cwricwlwm ac fe'i cyflwynwyd yn dda i gynnal diddordeb y plant. Byddwn yn bendant yn ei wneud eto!”
Athro Blwyddyn 6, Penarth