Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 ac uwch ac mae'n para tua 2 awr ar gyfer dosbarth o 30 disgybl.
Hanner diwrnod £325 (i ddarparu ar gyfer 1 grŵp), diwrnod llawn £495 (i ddarparu ar gyfer 2 grŵp)
Gellir trafod amseroedd a dyddiadau wrth archebu'r gweithdy.
Mae gweithdai a ariennir yn llawn ar gael i ysgolion uwchradd yng Ngheredigion trwy ein prosiectau a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.