Yn y gweithdy Codio gyda BBC micro:bit, caiff disgyblion eu tywys drwy gyfres o heriau lle byddant yn creu cod i symud robot micro:bit trwy gyfres o dasgau.
Mae disgyblion yn rhaglennu trosglwyddydd a derbynnydd i gyflwyno rheolaeth o bell, gan addasu eu cod drwy’r amser i wella perfformiad eu robot.

Archebu gweithdy

Sut mae'n gweithio

Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ac mae'n para tua 2 awr ar gyfer dosbarth o 30 disgybl.

Diwrnod llawn £495 (digon ar gyfer 2 weithdy), 2 ddiwrnod llawn £850, 3 diwrnod llawn £1200.  

Gellir trafod amseriadau a dyddiadau wrth archebu'r profiad. Hanner diwrnod ar gael ar gais.  

Mae gweithdai a ariennir yn llawn ar gael i ysgolion uwchradd yng Ngheredigion, Conwy a Wrecsam trwy ein prosiectau a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Pam cymryd rhan

✔ Darperir yr holl offer angenrheidiol i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn gan EESW.  
✔ Gellir darparu ar gyfer nifer o wahanol ddosbarthiadau a grwpiau blwyddyn hefyd.  
✔ Mae'r gweithdy hwn wedi'i fapio i:
Cwricwlwm i Gymru 2022
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd

Bydd angen i'ch ysgol ddarparu taflunydd/sgrin i arddangos cyfarwyddiadau a rhywfaint o ofod llawr lle gall y disgyblion brofi eu robotiaid.