Mae ein gweithgaredd tyrbinau gwynt yn caniatáu i ddisgyblion ddysgu sut mae tyrbinau gwynt yn gweithio, sut maen nhw'n cael eu peiriannu a'u hadeiladu.  
Mae disgyblion yn defnyddio ein pecynnau sydd wedi'u hailgynllunio i adeiladu eu tyrbin gwynt eu hunain a mesur yr egni a gynhyrchir. Trwy addasu eu cynllun, mae pob tîm yn gyfrifol am greu a chofnodi'r tyrbin gwynt mwyaf effeithlon.  

Archebu gweithdy

Sut mae'n gweithio

Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ac mae'n para tua 2 awr ar gyfer dosbarth o 30 disgybl.

Diwrnod llawn £495 (digon ar gyfer 2 weithdy), 2 ddiwrnod llawn £850, 3 diwrnod llawn £1200.  

Gellir trafod amseriadau a dyddiadau wrth archebu'r profiad. Hanner diwrnod ar gael ar gais.

Mae gweithdai a ariennir yn llawn ar gael i ysgolion uwchradd yng Ngheredigion, Conwy a Wrecsam trwy ein prosiectau a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac ysgolion cynradd ac uwchradd yn ardaloedd Rhondda, Cynon, Castell-nedd ac Afan a ariennir gan brosiect Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.  

Pam cymryd rhan

✔ Darperir yr holl offer angenrheidiol i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn gan EESW.  
✔ Gellir darparu ar gyfer nifer o wahanol ddosbarthiadau a grwpiau blwyddyn hefyd.  
✔ Mae'r gweithdy hwn wedi'i fapio i:
Cwricwlwm i Gymru 2022
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd