Mhrosiect EESW 2022-23
03 Ebr 2023

Mhrosiect EESW 2022-23

Llongyfarchiadau i’r 80 tîm ym mhob cwr o Gymru a gymerodd ran ym Mhrosiect EESW 2022-23 Eleni, cwblhaodd 18 tîm o’r Gogledd a 62 tîm o’r De y Prosiect a chymryd rhan yn nigwyddiadau Gwobrau a Diwrnod Cyflwyno EESW 2023. Cynhaliwyd digwyddiad y Gogledd yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Mercher 22 Mawrth a digwyddiad y De mewn lleoliad newydd sbon, Arena Abertawe, ddydd Llun 27 Mawrth 2023.

Yn ystod y digwyddiadau, cafodd prosiectau’r myfyrwyr eu harddangos a’u hasesu gan weithwyr proffesiynol gwirfoddol yn STEM, a oedd wedi adolygu eu hadroddiadau ysgrifenedig ymlaen llaw. Cafodd y timau gyfle hefyd i gael eu henwebu am wobrau o £500 mewn categorïau amrywiol. Yn y digwyddiadau, roedd y myfyrwyr yn gallu ymweld ag amrywiaeth o stondinau arddangos o’r byd masnach a’r byd academaidd hefyd i gael cipolwg ar gyrsiau a dewisiadau gyrfa ym maes STEM.

Hoffem ddiolch i’n holl noddwyr, cwmnïau cyswllt a pheirianwyr, athrawon, aseswyr, ac arddangoswyr am flwyddyn lwyddiannus arall o Brosiect Chweched Dosbarth EESW, rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth barhaus i’r cynllun sydd wedi bod ar waith am dros 30 mlynedd erbyn hyn.

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran eleni, roedd safon y prosiectau’n uchel iawn a oedd yn gwneud y dasg o asesu’n anodd iawn i’r beirniaid gwirfoddol!

Unwaith eto eleni, rydym yn falch bod y Prosiect wedi galluogi athrawon, peirianwyr, cynrychiolwyr cwmnïau ac aseswyr gwirfoddol i ennill tystysgrif a gymeradwyir gan CPD UK i gydnabod eu hamser yn gweithio gyda ni.

Enillwyr Gwobrau Prosiect EESW 2022-23

Y Gogledd

Y Cymhwysiad Gorau o Fathemateg wedi’i noddi gan Addysgwyr Cymru

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Coleg Meirion Dwyfor -Pwllheli
  • Coleg Meirion Dwyfor- Dolgellau

Enillydd – Coleg Meirion Dwyfor – Pwllheli yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth

Y Cymhwysiad Gorau mewn Peirianneg a Thechnoleg wedi’i noddi gan yr IET

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Coleg Menai
  • Ysgol Bryn Elian
  • Ysgol Uwchradd Dinbych
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn

Enillydd – Ysgol Uwchradd Dinbych yn gweithio gyda Toyota

Gwobr Ian Binning – Y Defnydd Gorau o Egwyddorion Peirianneg Fecanyddol wedi’i noddi gan yr IMechE

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Coleg Menai
  • Ysgol Friars 1

Enillydd – Ysgol Friars 1 yn gweithio gyda’r Grid Cenedlaethol

 

Cynllun Mwyaf Arloesol neu Addasedig wedi’i noddi gan KLA

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Ysgol Bryn Elian
  • Ysgol Friars 3
  • Ysgol Glan Clwyd

Enillydd - Ysgol Bryn Elian yn gweithio gyda JCB Transmissions

 

Defnydd Gorau o STEM ar gyfer Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd wedi’i noddi gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Ysgol Glan Clwyd
  • Coleg Menai
  • Coleg Dewi Sant

Enillydd – Coleg Menai yn gweithio gyda Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam

 

Adroddiad Ysgrifenedig Cyffredinol Gorau wedi’i noddi gan CBAC

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Ysgol Bryn Elian
  • Ysgol Friars 3
  • Ysgol Glan Clwyd

Enillydd – Ysgol Glan Clwyd yn gweithio gyda Fifth Wheel Company

 

 

Y De

Gwerthfawrogiad Gorau o Faterion Amgylcheddol wedi’i noddi gan Bute Energy

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Ysgol Stanwell 3
  • Coleg Catholig Dewi Sant 1
  • Ysgol Esgob Gore
  • Ysgol Gymunedol Tonyrefail
  • Ysgol Bro Teifi

Enillydd – Ysgol Esgob Gore yn gweithio gyda Gwyddor Deunyddiau Prifysgol Abertawe

 

Defnydd Gorau o Fathemateg wedi’i noddi gan Addysgwyr Cymru

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd …

  • Ysgol Gyfun Gwyr 1
  • Coleg Sant Ioan
  • Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd 3

Enillydd - Ysgol Gyfun Gwyr 1 yn gweithio gyda Pheirianneg Awyrofod Prifysgol Abertawe

 

Y Dyluniad Peirianneg Cemegol/Proses Gorau wedi’i noddi gan IChemE

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd …

  • Ysgol Rougemont 1
  • Ysgol Tregŵyr
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera Bro Dur

 

Enillydd - Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn gweithio gyda Vale Europe Limited

 

Y Cymhwysiad Gorau mewn Peirianneg a Thechnoleg wedi’i noddi gan yr IET

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd …

  • Ysgol Cil-y-coed 2
  • Ysgol Stanwell 1
  • Coleg Gŵyr Abertawe – Gorseinon

 

Enillydd – Ysgol Cil-y-coed yn gweithio gyda Microchip

 

Gwerthfawrogiad Gorau o Faterion Diogelwch wedi’i noddi gan yr IMechE

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Coleg Gwent- Glynebwy 3
  • Coleg Gwent- Glynebwy 4
  • Ysgol Bro Preseli 2

Enillydd – Coleg Gwent Glynebwy 4 yn gweithio gyda Thales

 

Y Cyflwyniad Mwyaf Effeithiol o’r Datrysiad a Ddetholwyd

  • Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun
  • Ysgol Brynteg 1
  • Coleg Gwent – Torfaen

Enillydd -Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun yn gweithio gyda Future Valleys Construction

 

Y Defnydd Gorau o Egwyddorion Peirianneg Drydanol wedi’i noddi gan  IQE

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd 2
  • Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd 3

Enillydd – Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd 3 yn gweithio gyda Huntleigh Healthcare

 

Cynllun Mwyaf Arloesol neu Addasedig wedi’i noddi gan KLA

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Ysgol Cil-y-coed 2
  • Coleg Catholig Dewi Sant 1
  • Ysgol Gyfun Cynffig

Enillydd – Ysgol Gyfun Cynffig yn gweithio gyda Zimmer Biomet

 

Perfformiad Tîm Cyffredinol Gorau wedi’i noddi gan National Grid

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Coleg Gwent Torfaen
  • Ysgol Stanwell 1
  • Ysgol Cil-y-coed 2

 

Enillydd – Ysgol Stanwell 1 yn gweithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Abertawe – Adeiladu a’r Amgylchedd

 

Y Model neu’r Prototeip Gorau wedi’i noddi gan SWIEET

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Coleg Gŵyr Abertawe - Gorseinon
  • Coleg Gwent – Torfaen
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun

 

Enillydd – Coleg Gŵyr Abertawe, Gorseinon yn gweithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Abertawe - Peirianneg

 

Y Defnydd Gorau o STEM ar gyfer Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd wedi’i noddi gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Ysgol Gyfun Gwyr 1
  • Ysgol Esgob Gore
  • Ysgol Bro Teifi
  • Ysgol Brynteg 1
  • Ysgol Gymraeg Gwynllyw 1

 

Enillydd – Ysgol Brynteg 1 yn gweithio gyda SAS International

 

Yr Ateb Mwyaf Arloesol i’r Prosiect a Bennwyd wedi’i noddi gan Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru

  • Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth Sant Joseff 2
  • Ysgol Uwchradd Fitzalan 2

Enillydd – Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth Sant Joseff yn gweithio gyda Associated British Ports

 

Yr Adroddiad Ysgrifenedig Cyffredinol Gorau wedi’i noddi gan CBAC

Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…

  • Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun
  • Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd 2
  • Ysgol Bro Preseli 2
  • Coleg Gŵyr Abertawe - Gorseinon
  • Ysgol Stanwell 3

Enillydd – Ysgol Bro Preseli 2 yn gweithio gyda Ore Catapult

 

Mae Prosiect EESW yn rhan o STEM Cymru 2 sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru i weithredu yn y Gogledd, y Gorllewin a’r Cymoedd. Rydym yn ddiolchgar hefyd am gyllid parhaus gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru i gynnal gweithgareddau mewn ardaloedd eraill o Gymru