Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn EESW 2023
30 Tach 2023

Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn EESW 2023

Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Cynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW) 2023

Mae Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn EESW 2023 yn dathlu cyflawniadau rhyfeddol y myfyrwyr a gymerodd ran ym Mhrosiect Chweched Dosbarth EESW yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Rydym yn ddiolchgar i Industry Wales am noddi'r wobr am y bumed flwyddyn yn olynol.

Gwahoddwyd 478 myfyriwr Blwyddyn 12 a gymerodd ran yn y cynllun y llynedd i gyflwyno cynnig i egluro pam eu bod yn haeddu cael eu henwi’n Fyfyriwr EESW y Flwyddyn. Oherwydd safon uchel y ceisiadau a dderbyniwyd eleni, cyrhaeddodd 20 o fyfyrwyr y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ym mis Tachwedd ac roedd gan y beirniaid benderfyniad anodd iawn i'w wneud. Gwahoddwyd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, ynghyd â'u rhieni a'u hathrawon, i Ginio Rhwydweithio Blynyddol Fforwm Modurol Cymru yng Ngwesty'r Vale, Hensol, ar 30 Tachwedd 2023.

Rebecca Davies, Prif Swyddog Gweithredol EESW, oedd yn arwain y seremoni wobrwyo a chroesawodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i gyhoeddi'r enillydd.  Mae ein pobl ifanc yn gweithio’n galed i helpu yn eu cymunedau a thu hwnt, ac roedd fy nghydweithwyr a minnau’n teimlo’n ddarostyngedig o glywed sut roedden nhw wedi cyflawni hyn trwy godi arian a sefydlu eu helusennau a'u banciau bwyd lleol eu hunain.  Rydym yn ddiolchgar iawn bod Llywodraeth Cymru wedi parhau i gefnogi EESW drwy'r Gyfarwyddiaeth Addysg.”

Croesawodd y Gweinidog y myfyrwyr, eu rhieni a'u hathrawon a dywedodd:

“Rwy'n falch iawn bod EESW yn rhoi profiadau STEM gwerthfawr i bobl ifanc fel rhan o'r cwricwlwm ac yn eu galluogi i ddarganfod rhai o'r gyrfaoedd gwerth chweil sydd ar gael yn y sector peirianneg.

“Mae'r ymdrech a'r dalent a ddangoswyd gan y myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan ym Mhrosiect Chweched Dosbarth EESW yn ysbrydoliaeth.”

Un a ddaeth yn agos i’r brig ac a enillodd £400 oedd Chloe Simmonds o Goleg Gwent. Bu Chloe'n gweithio ar brosiect gyda Thales a chafodd rôl rheolwr ariannol. Wrth ddewis y cynllun terfynol ar gyfer eu prosiect, yn y pen draw dewisodd grŵp Chloe ei chynllun hi: System pibellau fertigol o fewn pibell sinc sy'n harneisio ynni o ddŵr gwastraff gan ddefnyddio tyrbin. Pan mae hi'n gadael y coleg, mae Chloe'n gobeithio astudio gradd meistr mewn peirianneg fecanyddol gyda blwyddyn mewn diwydiant a'i breuddwyd yw dilyn gyrfa ym maes rasio ceir Formula One. Dywedodd, "Mae prosiect chweched dosbarth EESW wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu, arloesi a chreadigol wrth allu cael mewnwelediad i faes peirianneg a'r rhagolygon cyffrous sydd gan y sector i'w cynnig.” 

Un arall a ddaeth yn agos oedd Sree Saranya o Ysgol Rougemont. Parwyd tîm Sree gyda CAF Rail a llwyddwyd i ddatblygu system dosio cemegol awtomataidd i wrthsefyll diraddio crynodiad sodiwm hypoclorit yn nhanciau glanhau CAF. Cymerodd Sree rôl arweinydd tîm a phennodd dasgau ymchwil fel astudio bacteria, dulliau dosio amgen, a chyfathrebu â pheirianwyr CAF am y system bresennol. Pan mae hi’n gorffen yn yr ysgol, mae Sree yn gobeithio astudio Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Imperial Llundain. Wrth siarad am ei phrofiad gyda'r Prosiect, dywedodd Sree "Rhoddodd prosiect Chweched Dosbarth EESW y gallu i mi ddeall goblygiadau gweithio ar brosiect peirianneg. Drwy’r prosiect hwn, cefais gyfle i hogi fy sgiliau arwain, gwaith tîm a sgiliau technegol.”

Cyhoeddwyd mai enillydd y brif wobr o £800 a Myfyriwr y Flwyddyn EESW 2023 yw Anna Petrusenko o Goleg Gŵyr Abertawe a weithiodd gyda Phrifysgol y Drindod Dewi Sant a Cambrian Solvents. Datblygodd tîm Anna danc clyfar ar gyfer monitro cyflyrau asidau ar-lein. Wrth weithio ar y prosiect, llwyddodd Anna i ddysgu llawer o sgiliau rhaglennu a pheirianneg uwch a chafodd gyfle i weithio gyda meddalwedd Arduino am y tro cyntaf. Pan mae hi'n gadael y coleg, mae Anna'n awyddus i archwilio gyrfa mewn Astroffiseg. Roedd Anna wrth ei bodd yn ennill y wobr a dywedodd: "Mae'n wirioneddol anhygoel bod myfyrwyr fel fi, sy'n barod i wneud eu cyfraniad a gwneud y byd yn lle gwell, yn derbyn cymaint o gefnogaeth. Rwy’n hynod ddiolchgar am hynny!”