Enyala Banks
Fe wnaeth gallu cymryd rhan yn EESW wneud i mi sylweddoli mai Peirianneg oedd y maes roeddwn i eisiau mynd iddo, gan ei fod yn dynwared profiad peiriannydd proffesiynol! Y broblem a roddwyd inni gan Network Rail oedd dod o hyd i ffordd i fesur cerrynt yn y rheilffyrdd wedi'u trydaneiddio, a phenderfynodd ein grŵp ein bod am ddefnyddio 'hall probe'. Caniataodd hyn imi ddarganfod fy angerdd am wyddoniaeth deunyddiau wrth edrych i mewn i'r deunydd mwyaf cynaliadwy ar gyfer y stiliwr (probe), ac mae wedi fy ysbrydoli i ddilyn y diddordeb hwn i astudio gwyddoniaeth deunyddiau yn y brifysgol!
Ioan Webber
Cymerodd Ioan Webber ran ym mhrosiect EESW gyda phedwar ffrind yn 2018-
2019 pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Buont yn gweithio
gyda chwmni TATA Steel ym Mhort Talbot. Y dasg a osodwyd i'r tîm gan TATA
oedd dadansoddi'r colledion thermol drwy'r prif gyflenwad stêm tymheredd
uchel yn y gwaith cynhyrchu pŵer.