Yn ein gweithdy Sphero, mae'r disgyblion yn cael eu tywys trwy gyfres o heriau, gan greu cod i archwilio galluoedd y robotiaid gwych hyn.
Mae'r gweithdy hwn yn hynod hyblyg a gellir ei addasu'n hawdd i gyd-fynd ag anghenion eich dysgwyr a'ch amserlen.
Gellir ymestyn y gweithdy fel her beirianneg, lle mae disgyblion yn defnyddio Lego ychwanegol i gario cargo gwerthfawr.
Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ac mae'n para rhwng 1 a 2 awr ar gyfer dosbarth o hyd at 30 o ddisgyblion.
Diwrnod llawn £495, 2 ddiwrnod llawn £850, 3 diwrnod llawn £1200.
Gellir trafod amseroedd a dyddiadau wrth archebu'r gweithdy. Mae hanner diwrnod ar gael ar gais.
✔️ Darperir yr holl becynnau gan EESW i gymryd rhan yn y gweithdy hwn.
✔️ Gellir darparu ar gyfer nifer o ddosbarthiadau a grwpiau blwyddyn.
✔️ Gweithdy hyblyg iawn.
✔️ Mae'r gweithdy hwn wedi'i fapio i:
Bydd angen i'ch ysgol ddarparu taflunydd/sgrin ar gyfer arddangos cyfarwyddiadau ac ardal fach o le ar y llawr lle gall disgyblion weithredu eu Spheros.