Bydd pob ysgol sydd wedi cofrestru yn derbyn pecyn 'Taith Robot', sy'n cynnwys map a chwe model LEGO Technic y gall disgyblion eu cydosod, eu gosod yn eu lle, ac yna eu gweithredu gyda'u robotiaid. Mae unrhyw robot sy'n ffitio'n gyfan gwbl o fewn sgwâr 20cm yn addas; mae modd i ysgolion nad oes ganddynt robot addas fenthyca un o'r math TPBot Edus. Gall EESW hefyd gynnig cymorth gyda sgiliau codio.
Mae Ddoe, Heddiw, Yfory yn rhaglen a ddatblygwyd gan EESW STEM Cymru mewn partneriaeth â’r Grid Cenedlaethol.