Cefnogir Adeiladwyr y Dyfodol gan y Gronfa Twf Lleol, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU ac yn cael ei rheoli yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.
Mae Adeiladwyr y Dyfodol wedi'i anelu at fyfyrwyr Blwyddyn 12 a 13 ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n ansicr ynghylch eu cynlluniau ar ôl y chweched dosbarth, yn enwedig y rhai efallai nad ydynt ar hyn o bryd yn ystyried addysg bellach neu addysg uwch.
Gall ysgolion gofrestru myfyrwyr ar gyfer dysgu ymarferol, ymweliadau â diwydiant, profiad gwaith a chymorth cyflogadwyedd. Byddwn yn gweithio gyda chi i nodi cyfleoedd sy'n addas ar gyfer diddordebau ac anghenion eich dysgwyr, gan eu helpu i archwilio llwybrau i gyflogaeth, prentisiaethau a hyfforddiant pellach.
Mae cymorth tuag at gostau trafnidiaeth a chostau staff i lenwi bylchau ar gael i helpu ysgolion i gymryd rhan.
Clwb Peirianneg
Rhaglen chwe wythnos ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn peirianneg ac ynni. Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau mewn disgyblaethau peirianneg ymarferol, gan gynnwys electroneg, niwmatig, systemau rheoli, roboteg, seiberddiogelwch ac awtomeiddio.
Ymweliadau â diwydiannau a diwrnodau blasu
Cyfleoedd i archwilio gweithleoedd ym Mharc Stormy, Safran Seats a WEPA Paper Mills. Gall myfyrwyr gwrdd â gweithwyr a phrentisiaid, gofyn cwestiynau a darganfod gyrfaoedd ym meysydd ynni adnewyddadwy, awyrofod a gweithgynhyrchu.
Profiad gwaith yn Bute Energy
Cyfle sy'n para wythnos i ennill profiad yn y sector ynni adnewyddadwy, archwilio rolau swyddi gwahanol a dysgu gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant.
Sgyrsiau gyrfaoedd a chymorth cyflogadwyedd
Cymorth i baratoi ar gyfer ceisiadau a chyfweliadau, ynghyd â chyfleoedd i glywed gan gyflogwyr. Mae hyn yn cynnwys cynulliad gan Renishaw ar bynciau STEM, sy'n archwilio gyrfaoedd mewn peirianneg a'r gwahanol lwybrau i mewn i'r sector.
Mae Adeiladwyr y Dyfodol yn helpu dysgwyr i gysylltu eu haddysg â chyfleoedd y tu hwnt i'r chweched dosbarth, ac i baratoi ar gyfer symud ymlaen i gyflogaeth, prentisiaethau neu hyfforddiant pellach.
Drwy'r rhaglen, gall myfyrwyr:
Gan fod EESW STEM Cymru wedi'i achredu ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD), gall athrawon sy'n cymryd rhan weithredol yn y rhaglen hefyd dderbyn tystysgrif CPD.
I drafod cyfleoedd a chofrestru ar gyfer Adeiladwyr y Dyfodol, cysylltwch a ni.
Mae Adeiladwyr y Dyfodol yn cysylltu cyflogwyr â myfyrwyr Blwyddyn 12 a 13 ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n ansicr ynghylch eu camau nesaf ar ôl y chweched dosbarth.
Byddwn yn gweithio gyda chi i lunio cyfle sy'n addas i'ch sefydliad, ac sy'n helpu dysgwyr i ddeall eich sector, y sgiliau sydd eu hangen arnoch, a'r llwybrau i mewn i'ch diwydiant.
Gallwch gymryd rhan drwy:
Helpwch bobl ifanc i ddarganfod dyfodol yn eich sector, tra'n meithrin cysylltiadau ag ysgolion lleol a thalentau posib ar gyfer y dyfodol.
Trwy gefnogi Adeiladwyr y Dyfodol , gall eich sefydliad:
Gallai eich cyfraniad helpu myfyriwr i ddarganfod diddordeb, dewis llwybr hyfforddi, neu gymryd ei gam cyntaf tuag at yrfa yn eich diwydiant.
I drafod sut y gallai eich sefydliad gefnogi Adeiladwyr y Dyfodol a helpu pobl ifanc i archwilio dyfodol yn eich diwydiant, os gwelwch yn dda cysylltwch a ni.