EESW yn gwahodd Coleg Merthyr i ddigwyddiad Gwyddoniaeth a'r Senedd 2024
21 Mai 2024

EESW yn gwahodd Coleg Merthyr i ddigwyddiad Gwyddoniaeth a'r Senedd 2024

Roedd EESW STEMCymru yn falch o'r cyfle i fynychu digwyddiad Gwyddoniaeth a'r Senedd unwaith eto ddydd Mawrth 21 Mai 2024.

Dyma ugeinfed pen-blwydd Gwyddoniaeth a'r Senedd, digwyddiad sy'n uno gwyddonwyr, peirianwyr a llunwyr polisi sy'n ymroi i adeiladu dyfodol i bawb. Trefnwyd y digwyddiad gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol a'i noddi gan David Rees AS, Dirprwy Lywydd y Senedd.

Yr Economi Werdd oedd thema 2024, a chafwyd trafodaethau panel a chyflwyniadau gan sawl siaradwr, pob un yn trafod yr ymgyrch tuag at Gymru Carbon Niwtral. Roedd EESW ymhlith nifer o arddangoswyr, pob un yn cyfrannu at y thema gyffredinol i'r rhai a oedd yn bresennol.

Roeddem yn falch o gael ein gwahodd unwaith eto i arddangos ein rhaglen o weithgareddau sy'n rhan o'n portffolio, a ariennir yn rhannol gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru. Cawsom gyfleoedd rhwydweithio rhagorol, wrth i ni godi stondin ochr yn ochr ag arddangoswyr eraill gan gynnwys CBAC, y Sefydliad Ffiseg, Technocamps, Cyngor y Gweithlu Addysg a Gofod Cymru.



Roedd hi'n bleser croesawu disgyblion Coleg Merthyr Tudful atom, fu'n cymryd rhan yn ddiweddar ym Mhrosiect EESW 2023-24. Roedd y disgyblion yn llawn brwdfrydedd wrth arddangos eu gwaith i weinidogion, siaradwyr a chynadleddwyr. Cafodd y tîm y dasg o ddiogelu tŷ a adeiladwyd cyn 1919 at y dyfodol, i'w ychwanegu at deras Rhyd-y-car, gan gynnal treftadaeth yr adeilad presennol a gwarchod nodweddion presennol.  

Llongyfarchiadau i'r disgyblion am gwblhau eu prosiect i safon mor uchel.  

Hoffai EESW ddiolch i'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol a'r Senedd am gynnal y digwyddiad hwn, ac edrychwn ymlaen at gymryd rhan unwaith eto’r flwyddyn nesaf.