Mae cyrsiau preswyl Headstart Cymru yn cynnig cyfle i fyfyrwyr Blwyddyn 12 dreulio amser mewn Adran Peirianneg mewn Prifysgol cyn cyflwyno eu cais i UCAS.
Oherwydd cyllid, ni allwn gynnig digwyddiadau preswyl dros nos yn haf 2025. Fodd bynnag, mae'r digwyddiadau canlynol yn digwydd eleni.
Rydym wrth ein bodd yn gwahodd athrawon a myfyrwyr i fynychu Cynhadledd STEM PDC 2025.
Nod y digwyddiad hwn yw dangos i fyfyrwyr y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael iddynt pe baent yn dewis astudio pynciau STEM yn y brifysgol. Bydd y diwrnod yn cynnwys sesiynau blasu rhyngweithiol o bob rhan o arlwy STEM PDC, o Wyddorau Fforensig i Beirianneg Awyrofod.
Mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer myfyrwyr ym mlwyddyn 12 neu gyfwerth sy’n astudio pynciau STEM ar lefel 3.
Rhaglen:
10.00 |
Cyrraedd a Chroeso i PDC |
10.30 |
Mae myfyrwyr yn dewis un o dri llwybr i'w dilyn: Gwyddoniaeth*, Cyfrifiadureg neu Beirianneg |
10.45 |
Mae myfyrwyr yn mynychu dwy sesiwn flasu yn eu llwybr: Gwyddoniaeth: Bioleg, Gwyddor Fferyllol, Gwyddor Fforensig Cyfrifiadureg: Seiberddiogelwch, Gwyddor Gyfrifiadurol, Cyfrifiadureg Peirianneg: Peirianneg Awyrofod, Peirianneg Sifil, Peirianneg Electronig |
12.30 |
Cinio – gwahoddir myfyrwyr i ddod â phecyn bwyd neu brynu bwyd ar y safle |
13.00 |
Taith campws gyda myfyrwyr presennol |
13.30 |
Rhwydwaith75 ac Opsiynau Prentisiaeth Gradd |
13.45 |
Camau nesaf – Paratoi ar gyfer UCAS |
14.00 |
Diwedd y gynhadledd |
*Bydd myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y llwybr Gwyddoniaeth yn cael eu cludo ar fws i Gampws Glyn-taf, tua milltir o gampws Trefforest.
Rydym yn falch iawn o gynnig cludiant am ddim ar gyfer y digwyddiad hwn.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i PDC!