Mae rhaglen allgymorth newydd a fydd yn ysbrydoli pobl ifanc ledled De Cymru i ddilyn gyrfaoedd mewn lled-ddargludyddion wedi'i lansio gan CSconnected a phartneriaid. Wedi'i gwneud yn bosibl gyda chyllid gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) a Chronfa Cryfder mewn Lleoedd (SIPF), mae'r fenter 'Sparking STEM Futures' wedi'i chynllunio ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, wedi'i hanelu at fyfyrwyr 7–11 oed a 12–18 oed yn y drefn honno.
Mae EESW yn falch o fod yn bartner Sparking STEM Futures, ac mae'n cynnig cyfle i ysgolion yn awdurdodau lleol De-ddwyrain Cymru sef Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morganwg (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd) a chodau post SA1 i SA15 i gymryd rhan yn ein gweithdai Chwilotwyr Cylchedau cynradd a phrosiect Cartrefi Cynaliadwy ysgolion uwchradd.
Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 ac mae'n cymryd tua 1.5 - 2 awr gyda dosbarth o 30.
Does dim angen unrhyw ddysgu blaenorol mewn electroneg na deunyddiau ar gyfer y gweithdy, a bydd y disgyblion yn cael llawer o hwyl wrth ddarganfod sut y gellir defnyddio electroneg a lled-ddargludyddion.
Bydd angen i ysgolion ddarparu taflunydd/sgrin i arddangos y cyfarwyddiadau a gofod ystafell ddosbarth addas i gynnal y gweithdy.
Diwrnod gwych gyda’r plant yn dysgu sgiliau newydd i addysgu eu hunain am ddargludyddion, ynysyddion, lled-ddargludyddion a bod y rhan fwyaf o gylchedau trydanol yn gweithio gan ddefnyddio cydrannau mewnbwn, prosesau ac allbwn. Cafodd y plant hwyl arbennig ar y gweithgaredd ymarferol o adeiladu'r cylchedau.
Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer cam cynnydd 4 ac mae'n para tua 2 awr ar gyfer dosbarth o hyd at 30 o ddisgyblion sy'n gweithio mewn grwpiau bach.
Does dim angen unrhyw wybodaeth flaenorol. Yn ystod y cyfnod hwn bydd disgyblion yn codio, cydosod, profi ac arddangos eu Cartrefi Clyfar.
Gellir trafod amseriadau a dyddiadau wrth archebu'r profiad.
Darperir yr holl adnoddau ar gyfer cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn gan EESW. Dim ond lle addas sydd angen i’r ysgol ei ddarparu, ynghyd â dyfeisiau megis gliniaduron neu Chromebooks gyda mynediad at y rhyngrwyd ac aelod o staff i'w goruchwylio.