Prosiect trawsgwricwlaidd dwy gam ar gyfer ysgolion Cynradd a gefnogir gan y Grid Cenedlaethol.
Archwilio hanes peirianneg Cymru i ddatrys heriau heddiw a dylunio atebion yfory.
Rydym yn bwriadu ymgysylltu â 10 ysgol gynradd yn Ne Cymru yn nhymor yr Haf 2026 cyn lansio'r rhaglen lawn o fis Medi.
Mae'n brosiect 2 gam
Cam 1 - Prosiect ymchwil a dylunio dan arweiniad athro sy'n cynnig ystod o opsiynau trawsgwricwlaidd. Yn ddigon hyblyg i addasu i themâu ac amcanion cwricwlwm ysgol ond wedi'i arwain a'i gefnogi gan adnoddau enghreifftiol EESW.
Mae disgyblion yn datblygu sgiliau ymchwil ac ymholi wrth iddynt archwilio peirianneg o orffennol Cymru ac ymchwilio i weld a oes heriau tebyg yn bodoli heddiw. Maent yn cryfhau meddwl beirniadol trwy gymharu cyd-destunau a gwerthuso beth sydd wedi newid, wrth gymhwyso creadigrwydd a meddwl dylunio i ddatblygu atebion modern.
Cam 2 - Gweithdy codio yn yr ysgol dan arweiniad EESW. Bydd disgyblion yn dysgu sut i reoli symudiad robotiaid bach gan ddefnyddio codio bloc.
Mae disgyblion yn datblygu cymysgedd cyfoethog o sgiliau technegol, gwybyddol a rhyngbersonol wrth raglennu eu robot.
Maent yn datblygu meddwl cyfrifiadurol drwy rannu'r llwybr yn gamau rhesymegol, mireinio cyfarwyddiadau, a deall sut mae cod yn trosi'n symudiad yn y byd go iawn. Wrth iddynt addasu mesuriadau, onglau a chyflymder, maent yn defnyddio rhesymu mathemategol a datrys problemau, gan ddysgu profi, gwerthuso a gwella drwy dreial a chamgymeriad.
Mae natur ailadroddus addasu cod yn meithrin gwydnwch a dyfalbarhad, wrth i ddisgyblion ddysgu bod camgymeriadau yn rhan o'r broses. Mae cynllunio llwybr y robot yn cryfhau ymwybyddiaeth ofodol a meddwl strategol, tra bod gweithio mewn tîm bach yn annog cyfathrebu, cydweithio a gwneud penderfyniadau ar y cyd.
At ei gilydd, mae'r prosiect yn cyfuno creadigrwydd â manwl gywirdeb, gan ddathlu diwylliant a hunaniaeth Cymru wrth helpu plant i feddwl fel peirianwyr—yn chwilfrydig, yn drefnus, yn canolbwyntio ar atebion ac yn gymdeithasol gyfrifol.
Cydosod modelau, cynllunio llwybrau a dysgu codio a rheoli robot gan ddefnyddio codio bloc
Cwblhewch y ffurflen ganlynol i gael mynediad at y Canllaw i Athrawon ac Enghreifftiau Ymchwil - Ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg