Nod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw rhoi gwybod i chi beth i’w ddisgwyl pan fydd Cynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW) yn casglu gwybodaeth gennych. Rydym o ddifrif ynglŷn â phreifatrwydd a chyfrinachedd ac mae’r holl wybodaeth yr ydym yn ei chasglu, ei phrosesu a’i storio’n cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2016/679 a Deddf Diogelu Data 2018.
Diben casglu data

Er mwyn cymryd rhan yn ein gweithgareddau, byddwn yn casglu data personol gennych. Rydym yn gwneud hyn at ein dibenion monitro a gwerthuso ein gweithgareddau ein hunain, ond gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer adrodd i’n cyllidwyr amrywiol. Bydd y wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn cael ei phrosesu gennym fel y gallwn gofnodi eich bod yn cymryd rhan yn ein gweithgareddau. Ni yw’r Rheolydd Data ar gyfer y wybodaeth hon. Fel y Rheolydd Data, rydym yn gyfrifol am benderfynu sut mae eich data personol yn cael ei brosesu ac at ba ddibenion. Pan fo data’n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwaith ymchwil, ni fydd unrhyw ddata a fydd yn datgelu pwy ydych yn cael ei gyhoeddi heb gydsyniad penodol yr unigolyn e.e. astudiaethau achos. Am restr o wybodaeth yr ydym yn ei chasglu am unigolion, lawrlwythwch Hysbysiad Preifatrwydd EESW - Gwybodaeth Bellach

Os ydych yn cymryd rhan mewn prosiect a ariennir gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU (gan gynnwys ein gweithdai Cyflwyniad i Beirianneg a Gweithgynhyrchu), byddwn yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion cyllido.  Dylid darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar y cyd â Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-privacy-notice/uk-shared-prosperity-fund-privacy-notice

Wrth gyflawni ein busnes a darparu gwasanaethau i chi efallai y byddwn yn tynnu lluniau a fideos i hyrwyddo ein gwasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau. Efallai y bydd rhai o'r lluniau / fideos hyn yn cynnwys delweddau ohonoch chi.  Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio pryd y gellir cymryd delweddau/fideos o'r fath, sut y gellir defnyddio'r delweddau/fideos a'n sail gyfreithlon ar gyfer cymryd a defnyddio'r delweddau. 

Pan fyddwn yn bwriadu tynnu lluniau neu ffilmio mewn digwyddiadau cyhoeddus, byddwn yn sicrhau bod arwyddion priodol yn eu lle i roi gwybod i fynychwyr am hyn. Rydym yn cadw delweddau a fideos o'r bobl yr ydym wedi tynnu lluniau ohonynt a'u recordio. Gall rhai o'r delweddau hyn fod yn ddelweddau agos sy'n golygu y gellir adnabod person yn glir, tra gall eraill fod yn ddelweddau o dorf er enghraifft, wedi'u cymryd o bellter gyda dim ond rhai nodweddion i adnabod person.

Pan fydd angen caniatâd unigolyn arnom i dynnu eu llun/fideo (gweler isod), efallai y byddwn hefyd yn cadw'r manylion canlynol:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac weithiau cyfeiriad e-bost
  • Manylion pryd y rhoddwyd caniatâd
  • Gwybodaeth am riant/gwarcheidwad/ysgol a phlentyn pan fo'r cydsyniad yn ymwneud â phlentyn neu berson ifanc o dan 16 oed. 

 

Sail gyfreithlon dros brosesu eich data

Mae seiliau cyfreithlon perthnasol y GDPR ar gyfer casglu eich data personol fel a ganlyn:

  • Cydsyniad
  • Rhwymedigaeth gyfreithlon
  • Tasg gyhoeddus
  • Buddiannau dilys

Data categori arbennig (sensitif)

Mae’r GDPR yn cydnabod bod rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif, ac yn cael eu dosbarthu fel “data categori arbennig”. Gall EESW gasglu data am iechyd unigolion er mwyn eu galluogi i gymryd rhan mewn rhai o’n gweithgareddau, gan gyfeirio’n benodol at gyflyrau meddygol neu alergeddau, ac at ddibenion ymweliadau â chwmnïau neu ar gyfer aros dros nos mewn prifysgolion.

Mae EESW yn casglu a phrosesu’r data hwn er budd gwrthrych y data er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael eu diogelu, yn enwedig pobl ifanc. Caiff y data hwn ei gasglu gyda chydsyniad penodol gan y rhiant/gwarcheidwad/athro. Am restr o ddata categori arbennig a gasglwyd, gweler Hysbysiad Preifatrwydd EESW - Gwybodaeth Bellach.

Pwy arall fydd yn derbyn fy nata?

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi’r ffordd y mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Mae EESW yn rhannu gwybodaeth â thrydydd parti pan fo hynny’n gwbl angenrheidiol yn unig. 

Mae unrhyw drydydd parti’n cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol Conwy, Wrecsam a Cheredigion a Llywodraeth y DU ar gyfer cyfranogwyr y gweithdai I2EM a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
  • Cyfrifyddion ac archwilwyr ar gyfer rhwymedigaethau ariannol (lle y bo’n berthnasol)
  • Penodir gwerthuswyr allanol gan EESW
  • Efallai y byddwn yn rhannu delweddau â thrydydd partïon at ddibenion marchnata, a allai gynnwys cylchlythyrau, y wasg leol/genedlaethol, cwmnïau argraffu ac i'w defnyddio o fewn cynnwys gwefan ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol neu ddeunyddiau hyrwyddo.  


Bydd EESW yn defnyddio ymgyrchoedd marchnata ar ffurf negeseuon e-bost i athrawon, ysgolion a chyfranogwyr (i EESW a Headstart Cymru dim ond pan fo cyfranogwyr yn 16 oed neu’n hŷn). Cynhelir gwefan MailChimp y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r unig ddata a gaiff ei lanlwytho gan EESW i MailChimp yw’r enw, yr ysgol/cwmni a’r cyfeiriad e-bost. Mae MailChimp wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r GDPR ac mae wedi hunan-ardystio â chyfundrefnau EU-U.S. Privacy Shield a Swiss-U.S Privacy Shield ac mae’n trosglwyddo data personol yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewropeaidd yn gyfreithiol i’r UDA yn unol â’n Hardystiad Privacy Shield ni.  Os hoffech optio allan ar unrhyw adeg, a fyddech cystal â chlicio ar y ddolen datdanysgrifio ar waelod yr e-bost. Os ydych yn datdanysgrifio fe allem gadw cofnod o’ch gwybodaeth bersonol er mwyn sicrhau nad ydym yn anfon rhagor o ohebiaeth atoch.

Cyfnod cadw

At ddibenion gwirio, bydd unrhyw ddata rydych chi'n ei ddarparu i ni yn cael ei gadw yn unol â'n polisi cadw dogfennau a/neu unrhyw gytundebau cytundebol eraill sydd ar waith ar yr adeg y darparwyd y data.  Bydd data etifeddol yn cael ei gadw am o leiaf tair blynedd ar ôl diwedd gweithrediadau STEM Cymru a STEM Cymru 2 a gallai fod mor hwyr â 31 Rhagfyr 2026. 

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â’ch data personol, fel a ganlyn, fodd bynnag nid yw’r holl hawliau’n berthnasol yn yr holl amgylchiadau. 

  1. Yr hawl i gael gwybod – mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu ac yn nodi’r sawl y bydd y wybodaeth honno yn cael ei rhannu ag ef
  2. Yr hawl i gael mynediad – mae gennych hawl i gael mynediad i’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch
  3. Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i gywiro unrhyw wybodaeth anghywir neu gwblhau unrhyw wybodaeth anghyflawn. Gallwch wneud y cais hwn ar lafar neu’n ysgrifenedig. 
  4. Yr hawl i ddileu - Yn gyffredinol, nid oes gan gyfranogwyr yr hawl i ddileu oherwydd nad yw’r hawl hon yn berthnasol os ydych yn defnyddio’r sail gyfreithlon ar gyfer tasg gyhoeddus. Yr unig amgylchiadau lle byddai’r hawl hon yn berthnasol fyddai os nad yw data personol cyfranogwyr yn angenrheidiol mwyach at y dibenion y gwnaethoch eu casglu neu eu prosesu’n wreiddiol, neu os ydych wedi prosesu’r data personol yn anghyfreithlon.
  5. Yr hawl i gyfyngu ar unrhyw brosesu data - mae’r hawl hon yn berthnasol yn unig pan ydych yn dadlau yn erbyn cywirdeb y data, pan fo’r data wedi’i brosesu’n anghyfreithlon neu os ydych wedi gwrthwynebu i’r data gael ei brosesu ac rydym yn ystyried eich achos
  6. Yr hawl i gludadwyedd – dim ond mewn perthynas â gwybodaeth y mae unigolyn wedi’i rhoi i ni y mae'r hawl hon ond yn berthnasol
  7. Yr hawl i wrthwynebu - mae gennych yr hawl i wrthwynebu, fodd bynnag mae’n rhaid i chi gael rhesymau penodol a gallen ni ddangos sail gyfreithlon dros ddiystyru eich gwrthwynebiad.
  8. Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomatig – ni fyddwn ni yn gwneud unrhyw benderfyniadau awtomatig felly nid yw’r hawl hon yn berthnasol.

Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at https://ico.org.uk/your-data-matters/

A phwy y dylech gysylltu?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau/ymholiadau sy'n ymwneud â'r uchod, neu i wneud cais am Gais Mynediad Pwnc, cysylltwch ag info@stemcymru.org.uk

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â’n harweinydd diogelu data naill ai dros y ffôn neu’n ysgrifenedig:

Rebecca Davies
EESW
Canolfan Waterton
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3WT 

Rhif Ffôn: 01656 669381
E-bost: info@stemcymru.org.uk

Byddwch yn derbyn ymateb o fewn yr amser penodedig gofynnol (mis fel arfer).

Mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd, sef y rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data fel a ganlyn:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif Ffôn: 016 2554 5297
E-bost: wales@ico.org.uk

Newidiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn

Diwygiwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 20 Rhagfyr 2023. Rydym yn adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd a gallwn ei newid o dro i dro drwy ddiwygio’r dudalen hon i adlewyrchu’r newidiadau i’r gyfraith a/neu arferion preifatrwydd. Byddem yn eich annog i wirio’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd am unrhyw newidiadau.