Diwrnodau Cyflwyno a Gwobrwyo EESW
17 Mai 2022

Diwrnodau Cyflwyno a Gwobrwyo EESW

Llongyfarchiadau i bob tîm fu’n rhan o Brosiect 2021-22 EESW.

Eleni, cyflawnodd 10 tîm o’r gogledd a 46 tîm o’r de y prosiect a mynychu’r digwyddiadau gwobrwyo. Cynhaliwyd digwyddiad y gogledd yn Venue Cymru, Llandudno ar ddydd Iau Ebrill 28ain a digwyddiad y de yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Mercher Mai 4ydd. Arddangoswyd prosiectau’r myfyrwyr a’u beirniadu gan feirniaid gwirfoddol a’u henwebwyd ar gyfer gwobrau mewn ystod o gategorïau (gweler isod y rhai a gafodd eu henwebu a’r enillwyr).

Hoffem ddiolch i’r holl noddwyr, cwmnïau cyswllt a pheirianyddion, aseswyr ac arddangoswyr am flwyddyn lwyddiannus arall gyda Phrosiect Chweched Dosbarth EESW. Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth parhaus.

Da iawn i bawb a gymerodd ran eleni a llongyfarchiadau i bob tîm ar gwblhau eu prosiectau.

Eleni, rydym yn falch bod y Prosiect wedi caniatáu i athrawon, peirianwyr, cynrychiolwyr cwmnïau ac aseswyr gwirfoddol ennill tystysgrif a gymeradwywyd gan CPD UK i gydnabod eu hamser yn gweithio gyda ni.

Rydyn ni nawr yn cofrestru ysgolion a chwmnïau i gymryd rhan y flwyddyn nesaf, os oes gennych chi ddiddordeb ewch i'n tudalen Prosiect EESW am ragor o wybodaeth.

 

Gogledd Cymru

Y Defnydd Gorau o Beirianeg a Thechnoleg wedi ei noddi gan IET

Enwebwyd y canlynol…

  • Ysgol Bryn Elian
  • Ysgol Friars 1
  • Ysgol Friars 4

Enillydd – Ysgol Bryn Elian yn gweithio gyda Toyota

Y defnydd gorau o STEM ar gyfer cynaladwyedd a’r amgylchedd wedi ei noddi gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru

Enwebwyd y canlynol…

  • Ysgol Dyffryn Conwy 2
  • Ysgol Friars 1
  • Ysgol Friars 2
  • Ysgol Friars 3

Enillydd – Ysgol Dyffryn Conwy 2 yn gweithio gyda Mott MacDonald Bentley

 

Gwobr Ian Binning – Defnydd Gorau o Egwyddorion Peirianeg Mecanyddol wedi ei noddi gan IMechE

Enwebwyd y canlynol…

  • Ysgol Bryn Elian
  • Ysgol Friars 1
  • Ysgol Friars 3

Enillydd – Ysgol Friars 3 yn gweithio gyda Sefydliad Enbarr & Delta Rock

 

Adroddiad Ysgrifenedig Gorau wedi ei noddi gan CBAC

Enwebwyd y canlynol…

  • Ysgol Dyffryn Conwy 1
  • Ysgol Friars 3
  • Ysgol Bryn Elian

Enillydd – Ysgol Dyffryn Conwy 1 yn gweithio gyda Mott MacDonald Bentley

 

De Cymru

Y defnydd gorau o STEM ar gyfer Cynaladwyedd a’r Amgylchedd wedi ei noddi gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru

Enwebwyd y canlynol…

  • Gowerton School 1
  • Fitzalan High School 2
  • Ysgol Dyffryn Taf 2
  • Bishop Gore

Enillydd – Bishop Gore yn gweithio gyda Pheirianeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Gwobr ar gyfer y Datrysiad Mwyaf Arloesol i’r Prosiect a Osodwyd wedi ei noddi gan Dïm Arloesedd Llywodraeth Cymru

Enwebwyd y canlynol…

  • St Johns College
  • Ysgol Dyffryn Taf 2
  • Ysgol Gyfun Gwyr
  • Bishop Gore School

Enillydd – St Johns College yn gweithio gyda’r Bathdy Brenhinol

Gwobr ar gyfer y Defnydd Mwyaf Effeithlon o Egni wedi ei noddi gan Western Power Distribution

Enwebwyd y canlynol…

  • Coleg Gwent 4
  • Ysgol Dyffryn Taf 2
  • Fitzalan High School 2

Enillydd – Fitzalan High School 2 yn gweithio gyda Kier

 

Adroddiad Ysgrifenedig Gorau wedi ei noddi gan CBAC

The nominations for this award were…

  • Cardiff Sixth Form College 2
  • Ysgol Gyfun Gwyr
  • The College Merthyr 4
  • Cynffig Comprehensive School

Enillydd – Ysgol Gyfun Gwyr yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe

Cynllun Peirianeg Cemegol/Proses gorau wedi ei noddi gan IChemE

Enwebwyd y canlynol…

  • Gowerton School 1
  • Fitzalan High School 1

Enillydd – Fitzalan High School 1 yn gweithio gyda Kier

Y Defnydd Gorau o Beirianeg a Thechnoleg wedi ei noddi gan IET

Enwebwyd y canlynol…

  • Cardiff Sixth Form College 2
  • Cynffig Comprehensive school
  • Caldicot High School 2

Enillydd – Caldicott High School 2 yn gweithio gyda Nexperia/MicroSemi

 

 Y Defnydd Gorau o Faterion Diogelwch wedi ei noddi gan IMechE

Enwebwyd y canlynol…

  • Treorchy Comprehensive School 1
  • Treorchy Comprehensive School 2
  • Lewis Girls School

Enillydd – Lewis Girls School yn gweithio gyda Transport for Wales Rail Service/Amey

 

Cyflwyniad Mwyaf Effeithiol y Datrysiad a Ddewisiwyd wedi ei noddi gan Industry Wales

Enwebwyd y canlynol…

  • Ysgol Gyfun Gwyr
  • Cardiff Sixth Form College 2
  • St Johns College

Enillydd – Cardiff Sixth Form College 2 yn gweithio gyda Network Rail

Y Model Gweithio neu Brototeip Gorau wedi ei noddi gan SWIEET

Enwebwyd y canlynol…

  • St Johns College
  • Cynffig Comprehensive School
  • Caldicot High School 2

Enillydd – Cynffig Comprehensive School yn gweithio gyda Zimmer Biomet

Mae’r Prosiect EESW yn rhan o STEM Cymru 2 sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru i weithredu yng Ngogledd, Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Rydym hefyd yn ddiolchgar ein bod wedi derbyn cyllid parhaus gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru i gynnal gweithgareddau mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.