Festival UK* 2022
16 Medi 2020

Festival UK* 2022

Rydym yn chwilio am y meddyliau gorau a'r doniau disgleiriaf o'r meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg, yng Nghymru, i ffurfio Timau Creadigol a fydd yn gallu datblygu prosiectau ymgysylltu â'r cyhoedd ar raddfa fawr i arddangos creadigrwydd ac arloesedd y DU ar lwyfan rhyngwladol.

Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol: "Dyma gyfle gwych i godi proffil rhyngwladol Cymru fel cenedl greadigol ac arloesol. Bydd yr ŵyl yn arddangos, i'r byd, sut y gall syniadau gwych a doniau gwirioneddol ddod â phobl ynghyd mewn ffyrdd rhyfeddol, ac edrychaf ymlaen ati'n fawr iawn."

Daw'r buddsoddiad gwerth £3 miliwn yng ngham ymchwil a datblygu'r ŵyl mewn cyfnod o angen arbennig ac mae'n ddechrau ar broses ddatblygu ar gyfer prosiectau ysbrydoledig sy'n apelio'n eang.

Dywedodd Martin Green, Prif Swyddog Creadigol Festival UK* 2022: Mae Festival UK* 2022 yn ymwneud â gweithio gyda chydweithwyr o feysydd creadigol gwahanol, i ganfod cydweithwyr newydd a dathlu doniau a dangynrychiolir. Y nod yw dathliad cenedlaethol o'n holl greadigrwydd.  Arddangosiad heb ei ail o'r rôl hanfodol, hudolus y gall creadigrwydd ei chwarae i wneud bywyd yn well."

 

Nid yw syniadau yn ofyniad i'r broses ymgeisio ond rhaid i Dimau Creadigol allu dangos bod ganddynt y sgiliau a'r cydweithwyr sydd eu hangen i fodloni cyfuniad o feini prawf y byddant yn cael eu hasesu yn eu herbyn. 

Bydd y deg comisiwn llwyddiannus yn cael eu lansio dan enw gŵyl newydd ar ddiwedd 2021 ac yn cael ei chynnal drwy gydol 2022.

 

Gellir dod o hyd i fanylion llawn a chanllawiau yn www.festival2022.uk