Prosiect Peilot yn y rhanbarthau canlynol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Conwy a Sir Ddinbych. Am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd ym mlynyddoedd 5 a 6 a disgyblion uwchradd ym mlynyddoedd 10 ac 11.
Rhoddir cyfle Dylunio ymarferol i fyfyrwyr a fydd yn cynnwys defnyddio a datblygu arbenigedd yn y dulliau a’r prosesau canlynol: -
• Dylunio a Gweithgynhyrchu gyda Chymorth Cyfrifiadur
• Argraffu 3D
• Codio a Rheoli Digidol
Mae’r prosiect yn mynd i’r afael â materion trawsgwricwlaidd a amlygwyd yn y cwricwlwm newydd, gan gynnwys Cymhwysedd Digidol i ysgolion cynradd.Gall myfyrwyr blwyddyn 10 ac 11 ennill tystiolaeth ar gyfer eu Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru.
Bydd yr holl offer, darpariaeth y prosiect a nwyddau traul yn cael eu darparu am ddim gan EESW/ STEM Cymru. Rydym yn rhagweld llawer o ddiddordeb yn y prosiect hwn, mae cyfleoedd i ysgolion gymryd rhan yn gyfyngedig iawn, felly i sicrhau lle i’ch ysgol cysylltwch â Chris Harris yn y lle cyntaf. Chrisharris@eesw.org.uk.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.
Pilot Project in Blaenau Gwent, Bridgend, Conwy, and Denbighshire. Free to primary school pupils in years 5 and 6 and secondary school pupils in years 10 and 11.