Mae'r gweithgaredd hwn yn cyd-fynd â llawer o bwyntiau allweddol a geir yng Nghanllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022. O ran 'Gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith', mae'r canllawiau'n nodi:
‘Dylai profiadau anelu at agor llygaid dysgwyr i'r posibiliadau sydd o'u blaenau a dylent roi cyngor o ansawdd uchel ar sgiliau a llwybrau gyrfa, gan godi dyheadau dysgwyr sydd efallai ddim yn sylweddoli bod rhai cyfleoedd wir ar gael iddyn nhw...Dylai cwricwla ysgolion alluogi dysgwyr i gael profiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith a gyrfaoedd, gan feithrin gwybodaeth o ehangder y cyfleoedd a fydd ar gael iddyn nhw gydol eu hoes.’
‘Dylai dysgu am yrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith gynnwys:
‘Dylai ysgolion ac ymarferwyr sicrhau bod gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith: […]