Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.
Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
Mae grymoedd ac egni yn darparu sylfaen ar gyfer deall ein bydysawd.
Rwy’n gallu defnyddio ystod o fodelau i esbonio a rhagfynegi.
Rwy’n gallu defnyddio meddylfryd dylunio i brofi a mireinio fy mhenderfyniadau dylunio, heb ofni methu.
Rwy’n gallu datblygu fy meddylfryd dylunio er mwyn profi a mireinio fy mhenderfyniadau dylunio mewn ymateb i lwyddiant a methiant.
Rwy’n gallu archwilio sut mae gweithredu grymoedd penodol yn gallu effeithio ar fudiant gwrthrych.