Cynhadledd Rhagoriaeth Cenedlaethol Cymru mewn Peirianneg a Thechnoleg

Gyda’r diwrnod cyflwyno a gwobrwyo blynyddol yn agosau mae CAPC yn gwahoddi arddangoswyr i’r achlysur De Cymru yn y Celtic Manor, Casnewydd ar y 26ain o Fawrth 2012.

Mae Cynllun Addysg Beirianneg Cymru yn cynnal diwrnod cyflwyno ar gyfer 70 tîm o ddisgyblion Blwyddyn 12 sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun blwyddyn yma. Mae’r achlysur mawreddog yma yn un o’r mwyaf o’i fath yng Nghymru.

Mae hwn yn gyfle gwych i chi arddangos ynghyd â 50 o arddangoswyr eraill yn cynnwys cwmnîau lleol, Prifysgolion, Colegau Addysg Pellach a sefydliadau peirianneg proffesiynol. Byddwch yn gallu dangos y cyfleoedd recriwtio yng Nghymru i ddisgyblion chweched dosbarth, codi proffil eich cwmni a rhwydweithio gyda cwmnîau lleol eraill.

Bydd cyfarchiad gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a bydd yr achlysur yn cael ei chynnal gan Rebecca John o’r BBC.

Mae dros 125 o wahoddiadau yn cael eu hanfon ar gyfer yr achlysur, yn ogystal â disgyblion, athrawon, Prifathrawon, gweinidogion Cynulliad Cenedlaethol, peiriannwyr a chyfarwyddwyr rheoli o dros 50 o gwmnîau cyswllt lleol.

Ar gyfer gwybodaeth arddangos a phrisiau cysylltwch â CAPC ar admin@eesw.net neu ar 01656 669381.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *