Canlyniadau Rownd Derfynol F1 mewn Ysgolion 2012

Canlyniadau Rownd Derfynol F1 mewn Ysgolion 2012

Hoffai EESW/STEMCymru longyfarch pob tîm a gymerodd ran yn Rownd Derfynol F1 mewn Ysgolion yn Ffair y Big Bang yn Birmingham ar 16 a 17 Mawrth 2012.  Roedd gofyn i bob tîm gyflwyno eu gwaith i’r cyhoedd yn y digwyddiad, rhoi cyflwyniad i beirianwyr F1 a rasio eu car buddugol.

Hoffem longyfarch y timau isod yn arbennig – rydym yn falch iawn o berfformiad yr holl dimau o Gymru.

  1. Dosbarth Bloodhound SSC  – 3ydd – Speedy Sixes, Ysgol Glan Clwyd
  2. Car wedi’i Beiriannu Orau Jaguar (Noddwyd gan Jaguar Land Rover) – Team Fast Lane, Ysgol Friars
  3. Defnydd Gorau o Weithiau Solid (Noddwyd gan Solid Works) – Team Fast Lane, Ysgol Friars
  4. Car Bloodhound SSC (Noddwyd gan Denford Ltd) – Speedy Sixes, Ysgol Glan Clwyd (0.662 eiliad – 71.9mya)
  5. Gwobr Hunaniaeth Tîm Gorau – Motion Racing – Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Gyfun Trefynwy

Hoffai EESW/STEMCymru estyn eu llongyfarchiadau arbennig ychwanegol i Aron, Emily, John, Isabel, Tomos a Masuma o Team Fast Lane, Ysgol Friars.  Maent wedi’u dewis i gynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol F1 mewn Ysgolion y Byd yn Abu Dhabi, yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig o 29 – 31 Hydref 2012.  Byddant yn ymgiprys i fod y tîm cyntaf o Gymru i gael eu coroni’n Bencampwyr Byd F1 mewn Ysgolion ac rydym yn ffyddiog eu bod yn mynd i lwyddo!

Pob lwc i Team Fast Lane a mwynhewch Abu Dhabi!

I gefnogi’r tîm a dilyn eu taith, ewch i’w tudalen ar facebook:

http://www.facebook.com/pages/Ysgol-Friars-Team-Fast-Lane-Racing/160059294082521

neu eu gwefan bwrpasol:

http://f1.friars.gwynedd.sch.uk/

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *