Merched yn ymweld ag Airbus!

Ym mis Mawrth 2011, aeth 30 o ferched o Ysgol Maes Garmon ac Ysgol Glan Clwyd i ymweld ag Airbus, Brychdyn, fel rhan o Gynllun Merched mewn Peirianneg, a reolir gan Gynllun Addysg Beirianneg Cymru.

Bu menywod sy’n gweithio i Airbus yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r merched ifanc ac ym trafod eu gyrfaoedd yn Airbus. Cafodd y myfyrwyr eu tywys o amgylch Ffatri Airbus A380, lle mae adenydd yr awyrennau enfawr yn cael eu cynhyrchu a’u cydosod.

Meddai Emma Holland, peiriannydd cynorthwyol y siop gynhyrchu: “Gan fy mod i wedi cymryd rhan yng Nghynllun Addysg Beirianneg Cymru, roeddwn i’n gallu dangos bod y cynllun yn fwy na rhywbeth yr ydych chi’n cymryd rhan ynddo yn ystod eich bywyd ysgol; rydych chi’n gallu gwneud defnydd ohono yn eich gyrfa broffesiynol hefyd.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *