Cafodd Peirianwyr Ifanc y flwyddyn, Wasim Miah a Jessica Jones

Cafodd Peirianwyr Ifanc y flwyddyn, Wasim Miah a Jessica Jones o Goleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd, yr anrhydedd o gael eu gwahodd i Balas Buckingham i gwrdd ag Ei Uchelder Brenhinol Dug Efrog a derbyn y wobr glodfawr, Dysgl Wydr Dug Efrog, am y defnydd mwyaf Creadigol o Electroneg.

Bu Wasim a Jessica yn sgwrsio gyda’r Dug am awr a mwy, a chael taith o amgylch rhai o ystafelloedd preifat Palas Buckingham. Cafwyd cyfle i drafod llawer o bynciau, a bu Wasim a Jessica yn sôn am eu prosiect gwych ar gyfer EESW pan lwyddodd y ddau i ennill teitl Peirianwyr Ifanc y Flwyddyn.

Dywedodd Jessica “roedd hi’n anrhydedd enfawr cael cyfarfod â Dug Efrog am yr eildro a derbyn ei wobr am Ddefnydd Creadigol o Dechnoleg. Rwy’n falch iawn hefyd ei fod wedi dangos diddordeb yn fy uchelgais gyrfaol.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *