Cyfleoedd yn Sony UK Tec, Pencoed
04 Chw 2020

Cyfleoedd yn Sony UK Tec, Pencoed

Pum peth mae pob prentis peirianneg angen gwybod

Mae galwad mawr am yrfa mewn peirianneg.

Cryn gymaint fel bod Peirianneg DU wedi cynnig y bydd angen 186,000 o beirianwyr newydd bob blwyddyn tan 2024 i ateb y prinder sgiliau.

O ganlyniad, mae diddordeb mewn peirianneg yn debygol o gynyddu.

Mae adeiladu gyrfa gref mewn diwydiant allweddol sy’n gweld dyrchafiad cyson yn cynnig llwyth o fanteision, yn broffesiynol ac yn bersonol- felly mae hi’n amser cyffrous i fod yn brentis.

Os ydych yn darllen hwn, rydych siŵr o fod â diddordeb mewn bod yn brentis peirianneg, sy’n ddewis gwych.

Ac mae gwneuthurwyr Cymraeg Sony UK Technology Centre (UK TEC) wrthi yn chwilio am y rownd nesaf o brentisiai i ymuno a chynllun diwydiant arweiniol.

Felly, nawr eich bod yn meddwl am yrfa mewn peirianneg, dyma pum peth dylai pob prentis gobeithiol wybod. 

I bwy mae prentisiaeth peirianneg ar eu cyfer?

Mae prentisiaethau peirianneg wedi eu hanelu at amrywiaeth o bobl. Os ydych yn cwympo i’r categori o naill ai myfyrwyr lefel-A, rhywun sydd ag angerdd am STEM, rhywun sy’n edrych am ddewis arall i brifysgol, neu os ydych yn edrych i ennill profiad ymarferol ar-y-sywdd, mae prentisiaeth yn opsiwn hyfyw i chi.

Mae prentisiaeth uwch Sony UK TEC yn agored i bawb ar draws De Cymru sydd â lleiafswm o bump TGAU, yn cynnwys B neu’n uwch mewn Mathemateg, a C neu’n uwch mewn Gwyddoniaeth a Saesneg.  Gall bynciau perthnasol eraill megis Peirianneg, Dylunio a Thechnoleg, Gwybodaeth Technoleg, neu gymwysterau ymarferol eraill bod yn fanteisiol.

Yn gyffredinol, mae’r cyfleuster arobryn yn edrych am bobl gyda brwdfrydedd, moeseg gwaith cryf, meddwl chwilfrydig a sgiliau datrys-problem.

Beth allwch ddisgwyl?

Mae prentisiaeth yn eich galluogi i weithio gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, cynhyrchion a pheiriannau ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau.

Mae gyda chi’r cyfle i ddysgu mewn swydd mewn sefydliad arweiniol ac arloesol, tra’n gweithio wrth ochr rhai o’r peirianwyr a chwmnïau gorau.

Yn ogystal, byddwch yn cael y cyfle i gyflawni cymhwyster tra’n ennill profiad ymarferol- felly gallwch ddysgu tra’ch bod yn ennill cyflog.

Mae cynllun prentisiaeth dan arweiniad diwydiant Sony UK TEC wedi ei gydlynu gan ei Academi Sony Cymru ar y safle, a bydd yn eich galluogi i ennill profiad gwaith amhrisiadwy yn un o safleoedd gweithgynhyrchu mwyaf arweiniol y byd. 

Drwy gydol pedwar blynedd y rhaglen, byddwch yn cael y cyfle i weithio mewn amrywiaeth o adrannau yn cynnwys Peirianneg Cynhyrchu, Peirianneg Ddiwydiannol, Peirianneg Prawf, Peirianneg Meddalwedd, Peirianneg Datblygu a Roboteg a’r Siop Peiriant ar sail cylchdroead. Bydd pob blwyddyn yn cynnwys cyfuniad o brofiad gwaith a chyfleoedd dysgu. Bydd hyn yn eich galluogi i ddewis ble’r ydych yn teimlo fwyaf cyfforddus o fewn y busnes.

Yn ychwanegol, byddwch hefyd yn cael y cyfle i ennill cymhwyster lefel gradd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro neu Goleg Pen y Bont yn Ne Cymru. 

 

Ar beth fydda i’n gweithio?

Fel prentis byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan yn natblygiad ein cynhyrchion adnabyddus rhyngwladol.

Mae prentisiai Sony UK TEC yn agored i’r lefel uchaf o ddyrchafiad peirianneg, yn gweithio ar dechnoleg 4k band eang arweiniol yn y ddiwydiant, technoleg addysg arobryn fel y cyfrifiadur Raspberry Pi, a’r datrysiad swyddfa graff arweiniol Nimway, yn ogystal ag eraill. 

Pam dewis Sony?

Yn dechrau ei yrfa fel prentis ei hun, mae Cyfarwyddwr Gwasanaethau Proffesiynol Sony UK TEC, Gerald Kelly, yn dweud ei fod yn ffordd effeithlon o ddechrau eich bywyd gwaith.

Dywedodd: “Fel cwmni rydym yn sefydliad deinamig, rhyngwladol ac rydym yn parchu ein hunain ar ein hymroddiad i ddatblygiad a lles gweithwyr.

“I ni yn Sony UK TEC, mae ein staff yn allweddol i greu datrysiadau technoleg diwydiant arweiniol yr ydym yn enwog amdanynt, ac mae buddsoddi yn eu hyfforddiant a’u datblygiad yn hanfodol.

“Mae ein prentisiaid yn cael cefnogaeth lawn o’r cychwyn cyntaf, yn mynd drwy hyfforddiant ymarferol ar draws nifer o adrannau gyda rhai o beirianwyr gorau’r diwydiant, sy’n helpu i atgyfnerthu eu gwybodaeth a’u sgiliau.

“Nid yn unig hynny, ond maent yn mynd yn syth i weithio ar dechnoleg newydd mwyaf cyffrous y diwydiant ac yn gwneud gwahaniaeth i’r byd o’u hamgylch.

“Felly mae’r cynllun yn berffaith i unrhyw un sy’n edrych i ddwysau eu cariad at STEM a dysgu wrth ennill cyflog.”

Sut i wneud cais

I wneud cais i gynllun Sony UK TEC danfonwch lythyr eglurhaol a CV i PencoedVacancies@sony.com. Defnyddiwch yr ymadrodd ‘Cais Rhaglen Prentisiaeth’ fel eich testun e-bost.