Mae CREST (Creativity in Science and Technology) yn gynllun gwobrwyo cenedlaethol ar gyfer gwaith prosiect mewn gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, wedi’i gydgysylltu â Chymdeithas Wyddoniaeth Prydain ledled y DU. Mae Gwobrau CREST ar gael ar lefel Efydd, Arian ac Aur.

Bydd myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y Prosiect EESW yn cael cyfle i ennill Gwobr CREST lefel Aur neu Arian, a gall myfyrwyr i2E ac F1 mewn Ysgolion ennill gwobr Arian, Efydd neu Ddarganfod.  Mae gwobrau CREST yn cael eu cydnabod gan UCAS i’w cynnwys ar ddatganiadau personol.

CREST Awards

Bydd myfyrwyr sy’n cymryd rhan ym Mhrosiect STEMCymru yn cael ffurflen proffil wrth gofrestru i gwblhau adrannau law yn llaw â gwaith prosiect. Er bod STEMCymru yn rhaglen ar gyfer timau, mae CREST yn wobr unigol. Bydd angen i fyfyrwyr ddangos cyfraniad personol i ymdrech y tîm a dangos bod yr holl feini prawf wedi’u bodloni ar gyfer y wobr.

Pan fyddwn yn darparu gweithgaredd i2E mewn ysgol ac mae cyfle i ddisgyblion gofrestru i dderbyn Gwobr CREST, byddwn yn rhoi ffurflenni proffil i fyfyrwyr eu llenwi a’u cyflwyno i CREST ar ran yr ysgol.

Ar gyfer gweithgareddau a achredir gan CREST fel Cynghrair FIRST LEGO League, byddwn yn sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol y gall disgyblion ddefnyddio eu cyfraniad i gofrestru am wobr trwom ni.